Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DYSGEDYDD: OYDa'R HWN y MAE " TR ANNIBÍNWR " WEDI EI UNO. GWROLÜER CREFYDDOL. Y mae gwrolder yn ras tra angenrheidiol yn wyneb llawer iawn o amgylch- ìadau. Gwrolder moesol a feddylir, ac nid. gwrolder naturiol. Y gwrolder hwnw a nerthodd Pedr a'r apostolion i ddywedyd yn wyneb perygl, "íthaid yw ufuddhau i Dduw yn fwy—neu yn hytrach—nag i ddynion," Act v. 29. Nid oes dim rhinwedd moesol yn perthynu i wrolder naturiol, na dim drwg moesol yn perthynu i'r diflyg o hono. Dibyna hwnw yn gwbl ar fod y gewynau yn gryfion neu yn weiniaid; perthyna yn gwbl i gyfansoddiad coríf íic nid i ansawdd meddwl. Ond y mae gwrolder moesol yn dibynu ar egwyddorion yr enaid. Cynnwysa ygwrolder hwn— Hyder gyda Duio. "Awn yn hyderus at orseddfainc y gras," Heb. iv. 16. Tardd yr hyder hwn oddiar deimlad o gymmod â Duw, adnabyddiaeth wir- ioneddol o hono, ac ymwybodaeth fynwesol o gywirdeb calon a buchedd. "Am hyny, frodyr, gan fod i ni ryddid i fyned i mewn i'r cysegr trwy waed lesu, ar hyd ffordd newydd a bywiol, yr hon a gysegrodd efe i ni trwy y llen, sef ei gnawd ef; nesawn â chalon gywir, mewn llawn hyder ffydd," Heb. x. 19—22. Y mae euogrwydd yn cloi y tafod, yn llesgâu y galon, ac yn nychu y gydwybod. Hyder yn Nuw. "Ni a fuom hyf yn ein Duw," 1 Thes. ii. 2. Cynnwysa hyn ymddiriedaeth gyflawn yn ngallu, gofal, a ffyddlondeb Duw mewn adegau o drallod a chyfyngder. "Abu gyfyng iawn ar Dafydd, canys y bobl a feddyliasant ei labyddio ef; o herwydd chwerwasai enaid yr holl bobl bob un am ei feibion ac am ei ferched: ond Dafydd a ymgysurodd yn yr Arglwydd ei Dduw," 1 Sam. xxx. 6. Yr oedd mewn trallod ac enbydrwydd mawr; a gallasai ddywedyd, Collais y cwbl oedd genyf, drwg sydd, a gwaeth etto yn iy aros. Cefnodd fy nghyfeillion arnaf, cafodd fy ngelynion yr oruchafiaeth, nid oes neb yn sefyll o'm plaid, pa beth a wnaf ì Ond wedi iddo gael ei anadl ato am eiliad, dywedodd, "Yr Arglwydd yw fy ngoleuni a'm hiachawdwriaeth; rhag pwy yr ofnaf ? yr Arglwydd yw nerth fy mywyd; rhag pwy y dychrynaf ?" Salm xxvii. 1. "Paham, fy enaid, y'th ddaros- tyngir, ac yr ymderfysgi ynofî gobeithia yn Nuw; oblegid moliannaf ef etto, sef iachawdwriaeth ei wynebpryd," Salm xlii. 5. Hyder dros Dduw. Y mae math o feiddgarwch drosom eLn hunain ac nid dros Dduw, megys cyhoeddi ein dychymygion ein hunain fel gwirioneddau dwyfpl, arosod ein rheolau ein hunain fel trefniadau yr Anfeidrol, a chyfeirio at ein lles ein hunain a chyflawniad o'n mympwyon ein hunain o dan gochl sel dros osodiadau nefol. Hyder dros Dduw a gynnwysa sefyll yn flyddlon a diysgog drosto yn nannŵi^ by^íàio», colledion, a pheryglon; egnîo i ddwyn oddiamgylch anrhydedd m enw a'i achos, yn wyneb profedigaethau a niweidiau; glynif ar Tachwbdd, 186*. 2 h