Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DYSGEDYDD: gyda'b hwn y mae "yb annibynwb" wedi ei uno. ANERCHIAD I FYFYRWYR ABERHONDDU, MEHEFIN, 1869. GAN Y PARCH. M. D. JONES, BALA. Gyfeillion Hoff,—Mae pwyllgor eich athrofa wedi fy ngwahodd i roi anerchiad i chwi eleni, ac yr wyf innau yn derbyn y gwahoddiad fel arwydd o ymddiried ynof fel cyfaill cywir yr athrofa, yr hyn a hònaf fy mod. Yn wir, yr wyf yn eiddigus iawn dros gael fy ystyried yn gyfaill gwirion- eddol ein holl athrofeydd. Yr wyf yn ymdrechu'n wastad gyfranu ychydig at drysor pob athrofa, ac yr wyf yn ceisio bod yn siriol a charedig i'n myfyr- wyr o bob coleg pan y deuant oddiámgylch i gasglu. Edrychafgyda chysegredigrwydd a phryder ar ein holl golegau, am mai hwy yw y brif feithrinfa i'r weinidogaeth efengylaidd yn ein mysg. Nid oes genyf y cydymdeimlad lleiaf â neb a ddiystyra ddyn ieuanc, llawer llai â'r neb a wna'n fychan o bregethwr ieuanc. Mae dynion i'w cael a ddiystyrant wendid. Dywedodd Crist, " Edrychwch na ddirmygoch yr un o'r rhai bychain hyn," Mat. xviii. 10. Nid yn hawdd y gallwÉ ddiystyru y mawr; ond y mae'n dueddol i ni ddirmygu'r bychan. Ffol iawn, fodd bynag, yw'r hwn a ddiystyra rai bychain, am fod llawer iawn mwy o rai bychain yn y byd' na rhai mawrion. Bach yn wir yw pawb yn ei gychwyniad. Gellir rhoi troed ar y dderwen a'r gedrwydden gadarnaf yn eginyn, pan y mae hyny yn analluadwy ar ol iddi dyfu i'w nerth. Gwers y dylai pob Cristion ei dysgu yw, bod yn barchus iawn ei ymddygiad at bawb. Os na wnawn ryw lawer iawn o ddaioni yn y byd, mae angen i ni ymdrechu peidio a gwneud rhyw lawer iawn o ddrwg. Oddiar yr ystyriaeth yma y byddaf yn ymdrechu peidio a gwneud y niwaid Ueiaf, na gwneüd. dim i glwyfo teimlad neb o'n myfyrwyr yn un o'n colegau; ac yn ol yr un egwyddor, dylai myfyrwyr fod yn barchus a ífyddlon i'w güydd; a phan y deuant allan o'r athrofa, ac yr ymsefydlont yn y weinidogaeth, dylent dynghedu ffyddlondeb i bob gwr ieuanc teilwng a wynebo ar waith y weinidogaeth. Mae rhai i'w cael, ysywaeth, a fuont yn fyfyrwyr yn Athrofa Aberhonddu, a ddangosant ddiflasdod at fyfyrwyr Aberhonddu, yn enwedig pan y deuant oddiamgylch i gasglu: yr un fath o athrofeydd eraill. Ceir dynion diserch, anniolchgar, a diofal am lwy|ldíant teyrnas CrteÇ, y rhai na roddànt un cynnorthwy i fyfyrwyr ar eu teithiau casglyddol. í)rwg genyf gyfaddef fod Awst, 1869. p