Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DYSGEDYDD: §TDiR HWN Y MAE YR " ANNIBYNWR" WEDI El UNO. lîutoinglrtnacHj. PARHAD MEWN GRAS. " Am hyny, gan ein bod wedi ein cyfiawnhau trwy ffydd, y mae genym heddwch tuag at'Dduw, trwy ein Harglwydd Iesu Grist. Trwy yr hwn y cawsom däyfodfa trwy ffydd i'r gras nwn, yn yr hwn yr ydyin yn sefyl), ac yn gorfoleddu dan obaith gogoniant Duw," Rhct. v. 1, 2. Y mater pwysig a roddwyd i mi draethu arno heddyw yw " Parhad mewn gras." Nid wyf yn ystyried fod ynof gymhwysder i drafod pwnc ag y mae prií' feddylwyr yr oesau yn gwahaniaethu yn eu barn o berthynas iddo. Ond gwnawn ein goreu yn ol yr amgylchiadau. Ni cheisiwn ddweyd dim er boddio plaid o bobl, ond ymdrechwn edrych arno yn fanwl yn ngoleu y Beibl. Nid oes neb o ddarllenwyr ystyriol llyfr Duw nad ydynt yn credu yn wirioneddol y bydd i'r Cristion a barhao yn ffyddlon hyd y diwedd fod yn gadwedig. Mae pawb o honom yn cydgyfarfod yn y fan hon. Ond y ewestiwn mewn dadl yw, A ydyw pob Cristion gwirioneddol yn'parhau felly hyd y diwedd, ai nad ydyw 1 Mae yn wir fod genym hanes am rai wedi bod dan argyhoeddiad dwys, ac wedi gwneud proffes gyhoeddus o grefydd yr Arglwydd Iesu Grist, ac wedi hyny yn cilio ymaith i golledigaeth yr enaid, megys Judas Iscariot. Ond nid yw ei fod ef yn cael ei gyfrif yn un o'r deuddeg, yn un' sicrwydd ei fod wedi profi cyfnewidiad grasol ar ei gyflwr. Na, dywedodd yr Iesu, " Y rhai a roddaist i mi a gedwais, ac ni chollwyd o honynt ond mab y golledigaeth," Ioan xvii. 12. Gelwir Judas mewn man arall yn "ddiafol," neu wrthwynebwr, ac yn un nad oedd yn credu. A meibion y golledigaeth ydyw pawb nad ydynt yn credu yn Mab Duw: " Yr hwn nid yw yn credu ti ddamniwyd eisoes." Dangosir yn eglur yn yr ysgrythyrau y dichon dynion fyned yn mhell iawn mewn pethau crefyddol, ac etto yn amddifad o ras cadwedigol yn yr enaid. Am y rhai hyn y dywedir, "Ymaent yn proffesu yr adwaenant Dduw; eithr ar weithredoedd ei wadu y maent. A chanddynt rith duwiol- deb, eithr wedi gwadu ei grym hi.—Llawer a ddywedant wrthyf yn y dydd hwnw, Arglwydd, Arglwydd, oni phrophwydasom yn dy enw di1? ac oni fwriasom allan gythreuliaid yn dy enw diî ac oni wnaethom wyrthiau lawer yn dy enw diî Ac yna yr addefaf wrthynt, Nis adnabum chwi Medi, 1870. r