Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DYSGEDYDD GYDAR HWN Y MAE Yli "ANNIBYNWR" WEDI EI UNO. IHitotnîjtrtnaetíj. CADWEDIGAETH YN OL AEFAETH. "Yr hwn a'n hachubodd ni, ac a'n galwodd yn ol ei arfaeth ei hun."—Paul. Mae gwirioneddau mawrion crefydd ddatguddiedig yn galw am yr astud- rwydd a'r gwyleidd-dra mwyaf wrth ymdrin â hwy. Nid oes dim yn fwy annlieilwng na'r hyfdra dibarch gyda pha un y mae dynion bâs ac arwynebol yn trafod dyfnion bethau Duw. Ni phetrusant lefaru fel oraclau anffael- edig ar y pynciau y mae meddylwyr galluocaf yr oesau wedi bod mewn pryder uwch eu penau yn eu myfyrio, cyn anturio traethu eu barn arnynt; a phan eu traethant, y mae yn hawdd deall eu bod yn ymdeimlo yn llawn â'r anhawsderau sydd ar y fibrdd i ffurfio golygiadau clir a sefydlog arnynt. Y meddyliau Ueiaf bob amser sydd yn myned yn fwyaf didrafferth trwy anhawsderau duwinyddiaeth. Maent yn rhy fychain i weled y dyryswch, ac y maent yn synu fod neb arall yn dychymygu ei fod. Ond y mae yr anhawsder yn aros, er hyny. Mae y graig yna, er fod eu bâd bychan hwy yn gallu nofio y dwfr bâs heb daro ai*ni; ond y mae y meddyliwr pwyllus, pan ddaw ati yn ei long odidog, yn sicr o'i theimlo. Ac y mae yn naturiol i ni ddysgwyl i ddatguddiad dwyfol gynnwys llawer o bethau uwchlaw dirnadaeth rheswm dynol. Er nad oes ynddo ddim sydd yn groes i reswm iach; etto, y mae ynddo bethau nas gellir, ar dir rheswm noeth, roddi cyfrif am danynt. Ac y mae agos yr holl ddadleuon duwinyddol fu, ac sydd yn cynhyrfu y byd, yn codi o'r fan yna, sef o ymgais dynion i ddwyn gwirion- eddau yr efengyl yn ddarostyngedig i ryw drefniant athrawiaethol o eiddo eu deall a'u rheswm hwy. Cyfundraeth ffydd ydyw yr efengyl, a dylai deall dynol, a rhcswm anianol, " ddyosg eu hesgidiau " mewn gwyleidd-dra wrth sangu ar ddaear gysegredig gwirioneddau dwyfol. Byddai yn dda genym allu nesâu at, ac ymdrin â, thestun ein hysgrif bresenol yn y cyfryw ysbryd. Nid ydym yn cymeryd arnom ddwyn dim newydd i'r golwg ar y mater. " Yr hen wirionedd, yr hwn oedd genym o'r dechreuad," yw yr hyn yr amcanwn ei egluro a'i amddiffyn; ond hoffem wneud hyny nid mewn ysbryd dadleugar, ond gydàg ymofyniad gostyngedig beth a ddywed Ebrill, 1871. o