Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DYSGEDYDD GYDa'r HWN Y MAE Ylì "ANNIBYNWE" WEDI EI TJNO. Butotnîjîròiaetìj. DUAYINYDDIAETH Y CYNHAUAF. Mae natur, rhagluniaeth, a'r Beibl, yn gyson â'u gilydd. Mae y cyfateb- iaeth sydd rhyngddynt yn awgrymu yn eglur mai yr un yw eu hawdwr. Mae y cynllunio manwl a welir yn natur a rhagluniaeth, i'w weled hefyd yn y dwyfol ddatguddiad. Mae pob peth drwy y Beibl yn amlygu fod Duw yn gweithio yn ei lywodraeth foesol, ac yn iachawdwriaeth pechadur- iaid, yn ol cynllun perífaith. Nid oes dim wedi ei adael dan ]ywodraeth damwain. Mae yr un wybodaeth fanwl, a'r un ddoethineb ddifwlch, yn dyfod i'r golwg yn mhob peth dwyfol. Y gallu tragwyddol sydd yn cael ei amlygu yn natur ac yn rhagluniaeth, a welir yn amlycach fyth yn nat- guddiadau yr ysgrythyr—" rhagorol fawredd ei nerth ef; gweithrediad nerth ei gadernid ef." Mae y daioni a'r gras sydd yn llifo yn afonydd drwy natur a rhagluniaeth, i'w weled yn amlycach o lawer yn y Beibl. Mae y benarglwyddiaeth sydd wedi penodi maintioli a dyben pob byd, a phob creadur, gan wneuthur un yn íÿchan, a'r llall yn fawr; un yn ymrwyíyn, a'r llall yn ddyn; un yn aderyn, a'r llall yn angel; a'r benarglwyddiaeth a amlygir yn rhagluniaeth yn newisiad moddion ac offerynau i gyrhaeddyd yr amcanion fyddo mewn golwg, i'w gweled yr un modd yn nhrefn iach- awdwriaeth pechaduriaid. Mewn gair, y mae cymaint o debygrwydd rhwng natur, rhaglunraeth, a datguddiadau y Beibl am lywodraeth foesol, a threfn gras Duw, fel yr ydym yn naturiol yn casglu nad ydyno ond gwahanol olwynion yn yr un peiriant mawr, dan lywodraeth yr un Bod mawr, i ateb yr un amcanion mawrion a gogoneddus, sef llesâd y bydysawd, a gogoniant £)uw. Gwahanol daleithiau ydynt, dan reolaeth yr un Penllywydd gogon- eddus, i ddwyn oddiamgylch ei amcanion goruchel a godidog ef ei hun. Gan fod tebygrwydd mor fawr rhwng gweithredoedd yr Arglwydd, yn mhob dosbarth o honynt, a bod yr un amcanion yn cael eu hateb drwyddynt i gyd, nid ydyrn yn rhyfeddu fod yr un dduwinyddiaeth yn cael ei dysgu ganddynt, e bod y naill beth yn eu plith yn cael ei ddefnyddio i egluro peth arall, ac felly fod y cyfan yn wasanaethgar i'r duwinydd a'r athronydd. Mbdi, 1871. r