Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DYSGEDYDD: gyda'r hwn y mae yu "annibynwr" wedi ei uno. üutoingîrìriaetij. GRAS. Yn nihlith y termau a arferir yn ein mysg, nid oes yr un yn fwy adna- byddus i bob dosbarth o wrandawyr yr ofengyl na'r gair gras. Ceir ef yn yr ysgrythyrau, mewn emynau, gweddîau, pregethau, ac ymddyddanion cyffredin. Mae Paul yn dechreu ei holl epistolau, oddigerth yr un at yr Hebreaid, gyda gweddi am ras i'r rhai yr ysgrifenai atynt; a diwedda ei holl epistolau, a'r epistol at yr Hebreaid yn gystal a'r lleill, gyda gweddi am yr unrhyw fendith. Alpha ac Omega ei ysgrifeniadau ef ydyw dyrnun- iad am ras Duw i ddynion. Mor deilwng o apostol Iesu Grist yw y fath ddymuniad! Ond, er mor arferedig yn ein plith ydyw y gair gras, gallai mai ychydig yw nifer y rhai sydd wedi astudio ei gynnwysiad. Nid yr un peth a olygir wrtho yn mhob man y cyfarfyddir âg ef yn yr ysgrifeniadau santaidd. Mae iddo amrywiol ystyron, a byddai yn fuddiol i ddarllenwyr y Beibl'fod yn gydnabyddus â'r gwahanol ystyron hyny, wrth fyfyrio yn ngair yr Arglwydd. Mae cyfyngu y gair i un ystyr, yn dyrysu meddwl yr astud- iwr, ac yn tywyllu goleuni yr oraclau dwyfol. Mae y gair gras weithiau yn golygu cariad, daioni, ac ewyllys da yr Arglwydd tuag at ddynion syrthiedig,—y cariad tragwyddol hwnw sydd yn Uenwi bodolaeth anfeidrol Jehofah, o ba un y tardd holl drefn yr iachawdwriaeth fawr sydd trwy lesu Grist. üyna yw meddwl y gair yn Heb. ii. 9, lle y dangosir fod Crist trwy ras Duw—trwy gariad a daioni anfeidrol y Goruchaf—wedi proíi marwolaeth dros bob dyn. Mae y gair yn dwyn yr un ystyr pan gymhwysir ef at Iesu Grist yn 2 Cor. viii. 9: "Canys chwi a adwaenoch ras ein Harglwydd Iesu Grist, iddo ef, ac yntau yn gyfoethog, íÿned er eich mwyn chwi yn dlawd, fel y cyfoethogid chwi drwy ei dlodi ef." Car- iad, daioni, ac ewyllys da y Gwaredwr, a olygir gan yr apostol. Mae y gair gras, yn yr unrhyw ystyr, mewn amrywiol fanau yn yr ysgrythyrau. Mewn lleoedd eraill, wrth y gair gras y meddylir yr efengyl, yn holl luosogrwydd a chyflawnder ei bendithion i bechaduriaid. Mae y bendithion Hl'LiREF, 1871. T