Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DYSGEDYDD: gyda'r hwn y mae yr "annibynwr" wedi ei üno. Wt Ecijos. UNDEB YE ANNIBYNWYE CYMEEIG, PAPYR A DDARLLENWYD YN NGHYFARFOD YR UNDEB CYNNÜLLEIDFAOL YN ABERTAWE. GAN Y PARCH. J. LEWIS, HENLLAN. Yr ydwyf, ar gais y pwyllgor, yn amcanu cynnyg i ystyriaeth y cyfarfod ychydig awgrymiadau ar y priodoldeb o ffurfio cyfarfod, neu gorfforiaeth (organization), i'r dyben i gael cyfleusdra i ymddyddan ac ymgynghori yn nghylch y pethau ag sydd yn dal perthynas gyffredinol â'r eglwysi Cynnulleidfaol yn Nghymru; ac hwylysu cydweithrediad yn eu cylch. Ni olygir cyflëu unrhyw gynllun ger eich bron. Bydd ffurfiad yr Undeb i gael ei adael i ddoethineb y cyfarfod yn gwbl. Cydunai y pwyUgor a'r ysgrifenydd yn eu golygiadau yn nghylch yr hyn fyddai yn briodol i alw eich sylw ato y boreu hwn. Ymdrechir ymgadw o fewn y teifynau. Amcan y sylwadau a ganlyn yw arwain (introduce) i'ch ystyriaeth bwyllog a difrifol. Dywedir hyn ar y dechreu, fel na byddo dysgwyliad yn ymgodi am gynllun o undeb i roddi barn arno. Byddai hyny yn myned dros y terfynau a nodasom i ni ein hunain. Hyderir y bydd i bawb ddweyd eu meddyliau yn rhydd a charedig ar y meddylddrychau ddygir gerbron. Os bydd iddo gael ffafr yn ngolwg y brodyr, bydded iddo gael ei gorffoli yn y ffurf a than yr enw j cydunir arnynt. Gan fod cylch fy myfyrdodau yn gyfyng, yr ydwyf dan yr angenrheidrwydd o fod yn fyr. Golygir fod cyfarfod o'r fath a nodwyd yn angenrheidiol. Mae amgylchiadau yr eglwysi, en perthynas â'u gilydd, eu perthynas âg enwadau eraill, a'u perthynas i sefyllfa cymdeithas a'r wladwr- iaeth, yn galw yn uchel am dano. I. Dechreuwn gyda'r gwirionedd syml a diymwad, fod undeb yn nerth. Canfyddir y gwirionedd hwn yn cael ei egluro yn mhob peth trwy y bydysawd—trwy anian, trwy gymdeithas—trwy bethau naturiol, moesol, ac ysbrydol—mewn cymdeithasau gwladol, llenorol, a moesol; ac nid yw cymdeithasau crefyddol yn eithriad. Gwir yw, mai undeb ysbrydol yw bywyd yr undeb, neu gorff- oriaeth cymdeithasol. Nid yw yr allanol o un gwerth heb yr undeb tufewnol. Peiriant heb ager fydd. Ond nid yw yr undeb cymdeithasol, neu gorflbriaeth, yn rhwystr i weithrediadau y bywyd ysbrydol. I'r gwrthwyneb, dywedwn ei