Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y D YSGED YDD: A'B HWN TE ÜNWTD TR "A*TNEBTNWR.r Mae bellach dros naw a deugain o flynyddau er pan ddaeth y rhifyn cyntaf o'r Dysgedtdd allan o'r wasg. Cyhoeddwyd y rhifyn hwnw TacL, 1821. Saif megys ar ei ben ei hun, ac ni chyfrifir ef gyda rhifynau y gyfrol gyntaf o'r cyhoeddiad. Tébygol y bwriadai y cyhoeddwyr iddo fod. yn gynllun teg i'r darllenwyr o ansawdd a threfn y cyhoeddiad a ddygid allan ganddynt. " Y Dysgedydd y galwent eu misolyn ar ddalen enwol y rhifyn hwnw; ond yn Ionawr, 1822, pan gyhoeddwyd y rhifyn a gyfrifir y cyntaf o'r gyfrol gyntaf, gelwir y cyhoeddiad " Y Dysgedydd Cbefyddol." Gan fod y rhifyn cyntaf oll wedi ei fwriadu i fod yn gynllun o'r hyn a fwriedid wneud, bydd yn ddyddorol gan amryw o'n darllenwyr presenol, yn ddiau, gael gwybod beth ydoedd ei gynnwysiad. Yr erthygl gyntaf ynddo yw "Anerchiad" at y cyhoedd, gyda golwg ar y misolyn, ei amcan, a'r pethau y bwriedid ysgrifenu arnynt ynddo. Nid oes enw neb wrth yr Anerchiad; ond mae yn eglur mai mynegiad ydyw o fwriadau y cyhoeddwyr. Dywedant y byddai i'r Dysgedydd, yn gyfíred- inol, gynnwys y pethau canlynol:— 1. Hanesion bywydau dynion enwog mewn gras a gwybodaeth, ac yn enwedig rhai felly o Gymru. 2. Traethodau byrion ar Dduwinyddiaeth, Moesoldeb, &c, a sylwadau beirniadol ar wahanol ranau o'r gair. 3. Hanes yr Bglwys yn fyr o ddyddiau yr apostolion, i gael ei barhau o rifyn i rifyn. 4. Golwg ar ddechreuad a chynnydd gwahanol sefydliadau erefyddol. 5. Hanes crefyddol, cartrefol, a thramor, yn enwedig y cenadon. 6. Hysbysiadau. 7. Amrywiaeth. 8. Hanesion Gwladwriaethol. 9. Barddoniaeth. I 10. Peroriaeth. Ychwanega yr anerchwyr y nodiadau pwysig a dyddorol a ganlyn:— " Naturiol meddwl y bydd rhai yn barod i ofyn, ÌPwy yw y cyhoeddwyr, a pha fath yw eu hegwyddorion ? I hyn y maent yn hyf ateb, fod eu hynaf- iaeth er dyddiau Crist,—eu bod yn hil grefyddol yr hen Ymnöillduwyr, y rhai, er eu bod wedi marw, ydynt yn llefaru etto, yn eu Uyfrau rhagorol, a'u hesiamplau duwiol,—^y rhai yr aeth miloedd o honymt i eu oartref Ionawb, 1872. A