Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y D YSGED YDD: a'r hwn tr ünwtd "tr annibtnwr. ^togbbûdcm: lltt^Dbifttŵrájr. Egwyddor fawr a nodedig arall mewn Anghydffurfiaeth ydyw, mai Iesu Grist yw unig Ben yr Eglwys. Nid cyfundrefn o athrawiaethau a gorchymynion yn unig yw y Grefydd Gristionogol; ond íel system o wirionedd ysbrydol mae yn canolbwyntio yn mherson Crist. Pe dysgid Cristionogaeth yn unig fel cyfundrefn, byddai yn amddifad o'i nodweddiad neillduol. Mae ei holl wirioneddau yn dyfod fel ffrydiau o oleuni oddiwrth berson yr Iesu. Un o'r golygiadau a ddyry efe i ni yw, mai efe yw Brenin a Phen yr eglwys. Nid yn unig fel Gwaredwr a Phrynwr y datguddir ef, ond íel Llywodraethwr ysbrydol. Gan hyny, un o brif elfenau ei grefydd ef ydyw ufudd-dod iddo ef fel Brenin; ac y mae hyn i'w gymhwyso, nid yn unig at bersonau unigol, ond at gymdeithasau o'i ddeiliaid ef. Mai ei eiddo ef yn unig yw yr hawl i lywodraethu ei eglwys, a ddywedir yn fynych yn yr ysgrythyrau. Er hyny, mae yn y wlad hon sefydliad sydd yn gwrthdaro awdurdod frenhinol Crist, nid yn gymaint trwy ei wadu, ond trwy osod i fyny un arall. Mae y sef- ydliad gwladol o grefydd yn Lloegr yn cydnabod y penadur fo yn llywodr- aethu yn ben iddo. Dadleuir weithiau gan ei bleidwyr, nad yw y penadur gwladol ond pen yr eglwys dan Grist. Pe ordeiniasai Crist is-lywyddion gwladol felly, diau y cawsem ryw hanes am y fath appwyntiad o'i eiddo ef yn y Testament Newydd. Ond nid ydym yn cael unrhyw awdurdod yn y Beibl o blaid y fath osodiad. Ac nid yw yr Anghydffurfwyr yn seilio eu gwrthwynebiad i lywyddion gwladol lywodraethu yr eglwys ar bethau nacaol. Mae ganddynt resymau cadarnhaol ac awdurdod ysgrythyrol dros eu golygiadau. Mae geiriau Crist ei hun yn uniongyrchol at y pwynt gyda golwg ar y mater hwn:—" Ac efe a ddywedodd wrthynt, Y mae brenhinoedd y cenedloedd yn arglwyddiaethu arnynt; a'r rhai sy mewn awdurdod arnynt, a elwir yn bendefigion. Ond na fyddwch chwi felly: eithr y mwyaf yn eich plith chwi, bydded megys yr ieuangaf; a'r penaf, megys yr hwn sydd yn gweini. Eithr na'ch galwer chwi, Rabbi: canys un yw eich athraw chwi, sef Crist; a chwithau oll brodyr ydych. Ac na elwch neb yn dad i chwi ar y ddaear: canys un Tad sydd i chwi, yr hwn sydd yn y nefoedd. Ac na'ch galwer yn athrawon: canys un yw eich Athraw chwi, sef Crist. A'r mwyaf o honoch a fydd yn weinidog i chwi. A phwy bynag a'i dyrchafo ei hun, a ostyngir; a ohwy bynag a'i gostyngp ei hun, a ddyrchefir." Yn Chwefeor, 1872. c