Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DISGEDYDD AJS HWH TB ÜNWTD " TB ANNIBTNWB.' "ŵan pûs^s a <£jran gr <âen." Nid yw yn hawdd penderfynu pa un ai traethawd, ai anerchiad, ai pregeth, ai darlith, ydyw yr ychydig sylwadau canlynol. Dichon eu bod, mewn rhan, yn cyfranogi o ddelw y naill a'r llall, ac eto heb fod yn gyfyng- edig i'r un o honynt. Pa fodd bynag, y maent yn seiliedig ar ychydig o ymadroddion sydd i'w canfod yn y bymthegfed benod o lyfr y Datguddiad, lle y dywed Ioan:—"Ac mi a welais megys môr o wydr, wedi ei gymysgu â thân; a'r rhai oedd yn cael y maes ar y bwystfil, ac ar ei ddelw ef, ac ar ei ,nôd ef, ac ar rifedi ei enw ef, yn sefyll ar y môr gwydr, a thelynau Duw ganddyntj a chanu y maent gân Moses, gwasanaethwr Duw, a chân yr Oen." Y mae enaid barddoniaeth a cherddoriaeth yn gorwedd yn mhob penod o'r llyfr hwn, o'i ddechreu i'w ddiwedd. Barddoniaeth ydyw cerddoriaeth mewn geiriau; a cherddoriaeth ydyw barddoniaeth mewn sain. Y mae y llyfr hwn fel telyn wedi cyweirio ei thanau yn barod, fel nad oes eisieu dim ond cyffwrdd â'i llinynau â bys gweddi a myfyrdod, nad ydyw y cyfan i'w clywed yn tori allan ar unwaith mewn iaith cân. Y mae yma gyfeir- iadau parhaus at udgyrn a thelynau, a seiniau a llefau, a lleisiau a chan- iadau, yn ddiorphwys, o amgylch yr orseddfainc fawr. Y mae yn debyg mai cyfeiriad sydd yma at sefyllfa ogoneddus yr eglwys yn ei phurdeb, ei nifer, a'i llwyddiant yn amser y mil blynyddoedd diwygiad cyffredinol, pan y bydd o ran ei chymeriad dysglaer, yn debyg i brydferthwch y nef, a phabell Duw gyda dynion. Y mae y dychymyg yma, fod yr eglwys filwr- iaethus ar y ddaear wedi ymgodi i uchder y nen, a bod eglwys fuddugoliaethus y nef wedi ymostwng i'w chyfarfod yn rhywle yn awyr creadigaeth ein byd, i'w chydnabod a'i harddel; a'r naill a'r llall wedi ymuno yn ngwasanaeth y mawl, fel yr ydym yn dychymygu ein bod yn nghanol cyngherdd eang anian, yn gwrando ar seiniau, uSant, Sant, Sant, yw Arglwydd Dduw Hollalluog," yn disgyn oddiuchod, ac "Amen, Haleluia—Teilwng yw yr Oen a laddwyd," yn esgyn fry, a'r cyfan o'r adseiniau yn ffurfio un anthem gyffredinol o fawl i Dduw a'r Oen. "Ac mi a edrychais, ac a glywais lais angylion lawer yn nghylch yr orseddfainc, a chan bob un o honynt yr oedd telynau a pherlau aur, a hwy a ganasant megys caniad newydd; ac mi a glywais lef o'r nef, fel llef dyfroedd lawer, ac fel dlef taran fawr; ac mi a glywais lef telynorion yn canu ar eu telynau, I'r hwn sydd yn eistedd ar yr orseddfainc ac i'r Oen, y byddo y fendith, a'r anrhýdedd, a'r gogoniant, a'r gallu, yn oes oesoedd!" Yna yr oedd y "nef newydd, a'r ddaear new- Medi, 1873. r