Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DYSGEDYDD. A'R HWN TB ÜNWTD " TE ANNIBTNWB." &xwct\puù g grrspbjîbb. Y mae un eto o olygwyr galluocaf y Dfsgedydd wedi rhoddi ei ysgrifell beibio am byth; ysgrifenodd "I'w barhau" ar ddiwedd ei ysgrif olaf, ond rhaid iddi aros bellach fel ysgrifau diweddaf Macaulay, Thaclceray, a Dickens, ar ei haner, heb obaith ei gorphen. Yr ydym aîn ddechreu gwaith y flwydd- yn ddyfodol, dan yr ystyriaeth, nid yn unig na wyddom a gawn ni fyw i gwblhau gwaith y flwyddyn, ond na wyddom wrth ddechreu ysgrif y bydd- wn byw i'w gorphen! Yr ydym yn teimlo na fu erioed adeg ar ein gwlad, pan yr oedd yn fwy pwysig i geisio rhoddi cyfeiriad priodol i'r ysbryd darllen sydd yn ein hieu- enctyd nag yn awr. Y mae rhan fawr o'r cyfnodolion Seisnig a'r mân- wythnosolion yn anghrefyddol hollol yn eu tueddiadau; ond oherwydd y ffugchwedlau a'r darluniau sydd ynddynt, yn nghyda'u rhadlonrwydd, der- bynir hwy yn gyffredinol. Y mae " pren gwybodaeth" yn orchuddiedig gan bob math o bryfed afiach, ac yn dwyn dau "rhyw ffrwyth"—"drwg a da"—bob mis a phob wythnos. Nid ydyw cyfeiliornad byth yn segur, ac y mae y dyddiau hyn, fel ei dad. diafol, yn rhodio oddiamgylch gan geisio llygru a gwenwyno barn ein cydgenedl. Mae meddwl wedi ei ddeffro yn yr oes hon, ac os na roddir iddo fwyd iach a phur, bydd yn sicr o chwilio am ysger- bydau afiach i ymborthi arnynt. Amcanwn wneuthur y Dysgedydd mor ddyddorol i'n teuluoedd ag sydd yn bosibl, trwy roddi ynddo lawer mwy o amrywiaeth, er iddp gyfarfod â chwaeth holl aelodau'r ty. Derbyniwch ef, rieni, er mwyn eich plant. Yr oedd anwybodaeth ein plant o'r iaith Seisnig, flynyddoedd yn ol, yn eu diogelu rhag y ffugchwedlau afiach, a'r wythnosolion filoedd sydd yn awr yn dylifo i Gymru, ac yn dad- sylfaenu yn ddystaw barch eich plant i bob peth sydd anwyl genych. Der- byniwch un cyhoeddiad sydd yn ymrwymo i wneuthur ei oreu i ychwanegu eu parch tuag at lyfr Duw, ty Dduw, a dydd Duw, fel sylfaen i gymeriad da. Derbyniwch ef> aelodau yr Ysgol Sàbbathol. Yr ydym wedi rhoddi eirch- ion yn barod am y prif gyhoeddiadau Seisnig sydd yn dal perthynas â'r Ysgol Sul, er mwyn anrhegu darllenwyr y Dysgedydd â'r awgrymiadau diweddaf, pa fodd i wneud y sefydliad daionus hwn yn fwy effeithiol. Cewch rywbetìi newydd bob mis dan golofn yr Ysgol Sul. Apeliwn at aelodau ein cyfeillachau crefyddol. Yr ydym yn teimlo j gellid gwneud y cyfarfodydd hyn yn fwy âdeiladol, trwy sicrhau mwy o amrywiaeth yn nhestynau yr ymddyddanion. Ceir colofn yn mhob rbifyn RHAGrîB, 1873. z