Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DYSGEDYDD a'b hwn yb unwyd "ye annibynwb." êpgbbiaefjj nwhm fefnbb. EiN byd ni, yn ddiau, sydd yn tynu mwyaf o sylw bodau rhesymol, o bob byd yn llywodraeth y Brenin Mawr; nid oblegid rhyw hynodrwydd sydd yn ei gyfansoddiad na'i faintioli, ond o herwydd y pethau mawrion a gogoneddus a ddygwyd, ac a ddygir eto, yn mlaen arno, er dwyn ei drigolion gwrth- ryfelgar yn ol i heddwch â Duw, i'w wasanaethu, ac i'w fwynhau yn dragywydd. Mae mwy o lygaid yn syllu ar y byd hwn, a mwy o feddyliau yn myfyrio arno, nag sydd ar unrhyw lanerch arall yn y crëad. Os felly, pa ryfedd fod dynion meddylgar yn ymdrechu cyrhaedd hysbys- rwydd am ei gyfansoddiad, a'i hynodion, ei hanesion, yn wladol ac yn eglwysig; a'i ho)l helyntion, yn ei holl oesoedd. Yma y dystrywiodd pechod yr holl drigolion, ac yma y sefydlodd satan ei deyrnas, fel tywysog y byd hwn. Yma hefyd y sefydlodd yr Arglwydd deyrnas nefoedd, i wrthweithio amcanion dinystriol y gelyn; ac y mae yr ymdrechion rhwng y ddau allu yma yn llawn o ddyddordeb i ni, fel y dygwyd hwynt yn mlaen, yn y gwahanol oesau, er dechreuad y byd. Cyn dyfodiad Crist yn y cnawd, yr oesoedd sydd yn tynu mwyaf o'n sylw, yn eu cysylltiad â chrefydd, ydyw yr oes gyntaf, oes Noah, oes Abraham, oes Moses, oes Dafydd, ac oes Zorobabel. Yna, dan oruchwyliaeth y Testament Newydd, oes y Gwaredwr mawr ei hun,a'r apostolion. Ond "pwy a draetha ei oes eff' Oes ymddangosiad Duw yn ein natur ni—oes gwneud aberth anfeidrol dros bechod—oes cymodi nef a daear â'u gilydd, yn ngwaed ei groes ef, ac oes sefydlu achos Crist ar y ddaear, yn holl symledd gogoneddus yr oruchwyliaeth hon, ac oes ysgrifenu y Testament Newydd, unig reol ffydd ac ymarweddiad canlynwyr yr Arglwydd Iesu. Dyna y bwysicaf o holl oesoedd y byd. Wedi hyny, yr oesoedd mwyaf angenrheidiol i ni fod yn gydnabyddus â hwynt, yn eu cysylltiad âg achos Mab Duw, ydyw oes Cystenyn Fawr, pan ddygwyd eglwys Dduw i gysylltiad anachaidd â'r llywodraeth wladol; yna, oes Morgan ac Awstin, pan oedd athrawiaeth yr efengyl megys ar ei phrawf—yr oesoedd canol, pan oedd Defodaeth mewn crefydd wedi dyfod i gyflawn rwysg a dylanwad ar ddynion—oes Leo y Degfed, Luther, a'r Diwygwyr Protestanaidd, pan dorodd goleuni Cristionogaeth bur allan mor ryfedd o ganol tywyllwch Pabyddiaeth—oes y Puritaniaid —oes Owen a Baxter, a'r anghydfíurfwyr. Yna oes Whitfield a Wesley, Harris a Rowlands. A dyma ein hoes ninau yn dyfod, gyda ei hynodion lluosog a rhyfeddol. Oes ydyw hon a wnaeth gynydd mawr mewn llawer iawn o bethau pwysig i'r eglwys a'r byd. Mae gwybodaeth o Ddaearyddiaeth, a chynyrchion gwahanol wledydd;—sefyllfa a chyflwr ei thrigolion, yn naturiol a moesol; gwybodaeth am gyfansoddiad y ddaear, ei thiroedd, ei Mai, 1874. i