Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DYSGEDYDD A'R HTVN TR UNWTO "tr annjbtnwr." A DRADDODWYD YN NGHYMANFA ÜDIRWESTOL PEN- RHYNDEUDRAETH, MEDI 28, 1874. Gyda hyfrydwch mawr yr ydwyf yn cyfodi yn bresenol i anerch y gynull- eidfa hon, ar yr achos dirwestol. Cynulleidfa ddyddorol iawn i mi ydyw un ddirwestol—gwŷr a gwragedd, gwŷr ieuainc, gwyryfon, a phlant wedi gwirfoddol ymwystlo i beidio arferyd gwlybyroedd meddwol o unrhyw fath fel diodydd cyffredin, ac i gydymdrechu er enill eraill i ymuno gyda hwy yn y rhyfel yn erbyn un o brif elynion cysur, heddwch, moesoldeb, llwydd- iant, a chrefydd yn ein gwlad—pob rhinwedd yn bersonol, teuluaidd, a chymdeithasol. Y mae yn agos i ddeugain mlynedd, bellach, er pan ddaeth yr achos dirwestol, yn y tíurf o lwyrymwrthodiad â gwlybyroedd syfrdanol fel diod- ydd cytfredin, i'n mysg ni yn Ngogledd Cymru. Ymddangosai y symudiad dipyn yn ddyeithr ac amheus i lawer y pryd hwnw; ond, er hyny, yr oedd amryw bethau yn fanteisiol i'w ' dderbyniad. Yrr oedd cynydd dirfawr diota, cyfeddach, a meddwdod, yn peri dychryn i bobl sobr ac ystyriol. Yr oedd mynych gwympiadau proffeswyr crefydd, drwy feddwdod, yn perj blinder dirfawr i eglwysi y saint yn mysg gwahanol enwadau. Yr oedd tlodi a thrueni lluaws o deuluoedd yn mysg y dosbarth gweithiol, oblegid yfed diodydd meddwol, yn cynhyrfu tosturi yn mynwesau dyngarwyr, a mawr ddymunent gael hyd i ryw foddion efíeithiol i atal y fath drychineb; a dechreuwyd meddwl nad oedd y diodydd gwirfol mor llesol ac angenrheidiol ag y tybiasai y mwyafrif yn ein plith eu bod. Heblaw hyny, yr oedd lluaws o honom yn ddynion iachus a chryfion, a chymhwys at bob math o galedwaith, ac ni arferasem yfed ond y nesaf peth i ddim o'r diodydd meddwol, a'r ychydig o honynt a yfem oedd mewn cyd- ymffurfiad âg arferion cymdeithasol, yn hytrach nag o unrhyw argyhoeddiad o'u llesoldeb. Dwfr a llaeth a fuasai ein diodydd cyffredin ni erioed. Gwyddem hefyd fod arferiad yn fynych yn mhlith diotwyr, pan wedi eu darostwng i dlodi a gwarth trwy gyfeddach a meddwdod, o "dyngu y cwrw/' fel y dywedant, am dymorau meithion, a'u bod yn llawer iachach a chryfach hebddo nag oeddynt pan yn ymarfer âg ef. Yr oeddym hefyd, wrth ystyried y mater, yn gweled yn eglur fod tenor yr holl ysgrythyr yn erbyn defnyddio diodydd cedyrn fel rhai cyffredin, ac nad oedd unrhyw ddeddf ddwyfol na dynol yn rhwynjo neb i'w hyfed; ond, o'r ochr arall, fod Sinai a Chälfaria, deddf ac efengyl, natur a rhagluniaeth, gwladgarwch a dyngarwch, o blaid llwyrymataliad oddiwrthynt fel diodydd cyffredin, Gwyddem mai dwfr a llaeth oedd diodydd y patrieirch, mai dwfr oedd diod Israel yn yr anialwch, mai wrth yfed dwfr yr Taohwedd, 1874- T