Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y D Y S GED Y DD a'r hwn yr tjnwyd "yr annibynwr." pobmtmtt ar Dfahtr (%Ifogst A DRADDODWYD YN LLANIESTYN AR DDIWRNOD URDDIAD Y GWEINIDOG. " Eithr am Grist ac am yr eglwys yr wyf fi yn dywedyd," Eph. v. 32. Gwyddai Paul yn dda pa beth, pa fodd, a pha bryd i ddywedyd. Yr oedd yn ddy wedwr graenus ac effeithiol. Nid wyf yn awr yn cofio am ddim ond un peth ag y methodd a dywedyd dim arno, sef yr hyn a welodd ac a glyw- odd yn y nefoedd pan fu yno; ond buasai ef yn sicr o allu dy wedyd hyny hefyd pe buasent yn draethadwy. Yma y mae yn dywedyd am Grist ac am yr eglwys. Dyma ei hoff destynau byth wedi ei dröedigaeth gan ras. Yr oedd ei amgyffredion eang, ei ysbryd gwrolfrydig, a'i udnabyddiaeth o'r naill a'r llall, yn ernes foddhaol o deilyngdod yr hyn a ddywedai am danynt. Dywedodd yn helaethach ac yn well am danynt nag y dywedodd neb arall yn ei oes. Testun ardderchog yw Crist a'r eglwys! Y wir winwydden a'i chang- henau—y bugail da a'i braidd—yr athraw a'i ddysgyblion—y priodfab a'i briodasferch—y Gwaredwr a'r gwaredigion. Dyma lle y caiff awen y bardd, meddwl yr athronydd, hyawdledd yr areithiwr, ac enaid y credadyn feusydd bythwyrddion, a goludoedd annherfynol. Diamheu y dywedir yn y cyfarfod hwn lawer am Grist, a gobeithio y dilynir y cwbl â bendith; ond dysgwylir i mi ddywedyd ychydig am yr eglwys—"Eithr am yr eglwys yr wyffi yn dywedyd." Mae y maes mor eang a thoreithiog, fel yr wyf'yn teimlo anhawsder mawr i wneud detholiad bychan, cryno, a phwrpasol o bethau, i'w dywedyd ar yr achlysur presenol. Gan fod y pwnc yn un ag y mae y gwahanol enwadau yn amrywio yn eu gol- ygiadau o berthynas iddo, naturiol ydyw i mi lithro i ddywedyd rhai pethau na fydd pawb o honoch yn eu cymeradwyo. Carem ddangos parch i Grist- ionogion sydd yn barnu yn wahanol i ni, ond nid parch mor ddall a di- bwrpas a'r un a'n llesteiriai i ddywedyd yr hyn a gredwn sydd wirionedd, a thrwy hyny, ddarnguddio peth o werth y tir teg y mae yr Ysbryd Glan drwy ei air yn ein harwain ar hyd-ddo. Ar ryw ystyriaeth, nid dymunol yw dadlenu nodweddion gwahaniaethol rhyw un enwad mewn cynulliad o wahanol enwadau. Yr wyf yn credu mai yr Annibynwyr yw y blaid gref- yddol fwyaf ansectol yn ein gwlad. Anfynych iawn yr ydym yn cyteirio at ein neillduolion enwadol. Nid wyf yn sicr fod hyn yn ganmoladwy. Yr wyf am ini ddangos goddefgarwch tuag at eraill, ac y mae yn ddigon sicr n8S gall neb o dan un trefniant arall ddangos mwy, os cymaint o hyny, heb íradychu eu hegwyddorion; ond y mae egwyddori ein pobl ein hunain, a'r sawl a ddewisant fynychu ein haddoldai, yn eithaf cyson â'r teimlad o oddef- garwch efengylaidd tuag at eraill. Mawrth, 1875. " e