Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DYSGEDYDD A'R HWN YR UNWYD "YR ANNIBYNWR." S-efablügrtogbb {S^flgratí gmtioit gn g §gb a gìmfo. Mae y pwnc sy dan ein sylw yn annhraethol yn ei bwysigrwydd. Nid un o faterion bychain y byd presenol mo hono; ond un o'r pethau rhyfedd a ddatguddiwyd i ni o berthynas i sefyllfa pethau yn y byd mawr, dyeithr, a thragwyddol, tuag at yr hwn yr ydym yn cyflym agoshau. Seilir yr ychydig nodiadau canlynol ar y geiriau a geir yn y benod ddiweddaf yn Llyfr yDatguddiad.—"Yr hwn sydd anghyfiawn, bydded anghyfìawn eto; a'rhwn sydd frwnt, bydded frwnt eto; a'r hwn sydd gyfiawn, bydded gyfiawn eto; a'r hwn sydd santaidd, bydded santaidd eto." Mae llawer iawn o ansefydlogrwydd yn y byd hwn. Daeth y byd yma drwy gyfnewidiadau rhyfeddol cyn iddyn ddyfod iddo erioed. Y mae gen- ym seiliau ysgrythyrol, a gwyddonol hefyd, i gredu hyny, er ei bod yn rhy fuan eto i ffurfio unrhyw gyfundrefn ar y fath íater dyeithr a hwn. Wedí dyfodiad dynion i'r byd, bu un diwedd ofnadwy arno drwy y diluw: "Y byd a oedd y pryd hwnw wedi ei orchuddio â dwfr a ddyfethwyd." Mae y byd presenol hefyd yn myned yn barhaus drwy gyfnewidiadau mawrion, yn heneiddio fel dilledyn, ac yn graddol dynu tua'i derfyn; a phan ddel yr adeg, bydd diwedd arno yntau; a bydd y diwedd hwnw yn fwy ofnadwy na'r un a gymerodd le yny diluw: "Eithr y nefoedd a'r ddaearsydd yr awr hon, ydynt trwy yr un gair wedi eu rhoddi i gadw i dân erbyn dydd y farn, a dystryw yr anwir ddynion." Mae y byd hwn yn ansefydlog o ran ei lywodraethau gwladol; ei drigolion: "Un genedlaeth a ä ymaith, a chen- edlaeth arall a ddaw;" ei grefyddau, a'i arferion. Mae pobpeth yma yn cyfnewid yn barhaus mewn llawer o olygiadau; mae y byd hwn fel pe bydd- ai ar olwynion yn cyflymu tua rhyw benod pwysig. Ond bydd y byd a ddaw yn hollol sefydlog. Ni ddaw na diluw o ddwfr, na diluw o dân, i beri diwedd ar hwnw. Ni heneiddia y byd hwnw fel y byd hwn, ac ni bydd arferion y trigolion yn cyfnewid yno, fel y maent yma. Sefydlog- rwyddyw un o'r prif linellau yn nodwedd y byd dyfodol. Yn wir, mae yn y byd hwn arwyddion fod y trigolion yn graddol nesau atgyflwr mwy sefydlog na'r un y maent ynddo yn bresenol. Macnt, yn araf, yn ym- sefydlu mewn egwyddorion ac arferion; y da mewn daioni, a'r drwg mewn drygioni, ac awgryma hyn yn gryf eu bod yn tynu tuag at sefyllfa anghyfnewidiol. Ni ôlygir wrth ddywedyd fel hyn, na fydd cy- nydd mewn daioni yn y nefoedd, na chynydd mewn drygioni yn uffern; mae yn eglur y bydd cynydd felly yn y naill wlad a'r Uall; ond ni bydd yno newid cyflwr; da fydd cyflwr y cyfiawnion byth, a drwg fydd cyflwr yr anghyfiawnion yno yn oes oesoedd. Mae dynion da a drwg yn gymysg â'u gilydd yma, ond byddant ar Mbhepin, 1875. l