Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DYSGEDYDD: a'r hwn yr unwyd "yr annibynwr." " l §sDbiiut Jjn." " Na ddywed, paham y bu y dyddiau o'r blaen yn well na'r dyddiau hyn?" Dyma ni ar ddechreu blwyddyn newydd. Dysged Duw ni i gyfrif eindydd- iau yn y fath fodd fel y dygom ein calon i ddoethineb. Dywed llawer o bobl wrthym fod y dyddiau o'r blaen yn tra-rhagori ar y dyddiau hyn mewn lluaws o bethau, a bod y byd yn myned waeth-waeth bob blwyddyn. Yr oedd profFeswyr crefydd yn fwy ysbrydol a duwiol, meddir, yn y dyddiau o'r blaen, nag ydynt yn y dyddiau hyn—pregethwyr yn fwy llafurus, ysgrythyrol, doniol, ac effeithiol yn eu gweinidogaeth—plant yn fwy ufudd i'w rhieni—gweision a morwynion yn llawer hawddach eu trin gynfc nag ydynt yn bresenol. Dywedir fod pobl ieuainc y dyddiau hyn yn dysgu taeru yn yr Ysgolion Sabbathol, ac yn dysgu eu gilydd i fod yn gas ac yn gecrus mewn cyfarfodydd dirwestol; a bod pob G weinyddiaeth Ẅladol yn myned yn fwy llygredig y naill ar ol y llall, a'r holl fyd yn myned i ddys- tryw mor gyflym ag y mae yn bosibl iddo fyned. Sicrheir i ni fod yn y dyddiau hyn lawer mwy o genfigen a drwg-ewyllys nag oedd yn y dyddiau gynt. Nid ydym yn amheu had oes bodau yn ngwahanol gylchoedd cym- deithas yn dra chenfîgenus a gwenwynllyd. Gall unrhyw ddyn dwl gen- figenu ac ewyllysio yn ddrwg i ddynion eraill, heb i hyny gostio nemawr iddo. Nid oes eisio synwyr cryf i genfigenu wrth eraill. Gall dyn fyddo bron ar drothwy y gwallgofdy ddymuno drwg i'w gymydogion. Dim ond i ddyn gwan ei gyneddfau gymeryd dose gweddol fycban o drwyth wermod lwyd, trwyth caci mwci, ac olew pawen y gath, wedi eu cymysgu â'u gilydd, gall wenwyno a chenfigenu faint a fyno. Mae talent allan o'r cwestiwn; oblegid wrth hòno yn gyffredin y cenfigenir. Er hyny, prin yr wyf fi yn meddwl fod mwy o genfigen yn y byd yn awr nag oedd yma yn y dyddiau gynt. Mae Dafydd yn cwyno yn fynych o achos y bobl fychain, feinion, lwydion, ddaneddog hyn, mosguitoes pob cymdeithas fyddo am wneud tipyn o ddaioni; ac y mae Solomon yn dywedyd, " Fod pob uniondeb gwaith dyn yn periiddo genfigen gan ei gymydog;" ondrhaid i genfigenwr dalu ydreth yn llywodraeth foesol Duwj os coledda genfigen, hi a bydra ei esgyrn, ac yn y diwedd, hi a ladd ei pherchenog; ac y mae doethineb, cyfiawnder, a daioni y Llywydd mawr yn dyfod i'r golwg yn arbenigol yn hyny. Nid wyf fi yn credu fod cenfigen yn uwch ei phen eleni na'r dydd y gwerthodd hi Joseph i'r Ismaeliaid; neu y dydd duach na hwnw, pan draddododd cenfigen Waredwr y byd i'w groeshoelio. Goddefer i mi, er mwyn cymeriad y natur ddynol, gredu ei bod yn oolli tir, a bod dynion llawn o ewyllys da i eraill, bodau twymgalon, na fynant goelio y gwaethaf am neb, yn cyflym luosogi ar y ddaear. Haerir yn eofn fod llawer mwy o gelwydd a thwyll yn mhlith fdynion yn bresenol nag oedd yn y dyddiau o'r blaen. Rhaid addef fod y ddaear yn gorfod cario baich dirfawr o gelwydd a thwyll yn y dyddiau pres- ÌONAWR. lâT6. A