Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DYSGEDYDD A'R HWN YR UNWYD " YR ANNIBYNWR." § ®tor%ilifor. (gan y parch. j. d., jetwen, glandwr). "Canys anmhosibl yw i'r rhai a oleuwyd unwaith * * * ac a syrtbiant ymaith, ymadnewyddu draehefn i edifeirwchj gan eu bod yu ailgroeshoelio iddyut eu hunaia Fab Duw, ac yn ei osod yn watwar," Hìb vi 4—6. Gwna y testun ddesgrifio sefyllfa ddychrynllyd iawn ar feddwl dyn—an- nihosibliwydd i edifarhau a diwygio. Anmhosibhwydd i íod yn iach, an* mhosiblrwydd i fyw a fyddai yn llai o anftawd. Gadewch i ni obeithio nad oes neb o honom yn y sefyllfa hon, ac na syrth neb o honom iddi ar ol llaw. I. Ni a sylwn ar weddeidd-dra edifeirwch ar bechadur. Gweddaidd yw ei edifeirwch cyntaf, edifeirwch luddew, edifeirwch un orr cenedloedd. Ilyn yw gorchymyn a galwad Duw, ac y mae yn lullol uniawa, oherwydd au- mhriodoldeb a drygioni gweithredoedd dynion. Gweddaidd yw edifeirwch gwrtbgiliwr. Am bersonau o'r dosbarth hwn y mae y testun yn siarad, dynion ag a ddadwnaethant yr hyn unwaith a wnaethaot yn dda. Y mac euciliad oddiwrth y gretydd Gristionogol yn destun priodol iawn o edifeir- wch. Y mae ymgaledu yn y fath gyflwr yn beth i ddychrynu rhagddo. II. Sefyllfa flaenorol y gwrthgilwyr ag a dybir yn y geiriau yma. 1. Cawsant wybodaeth am yr efengyl. Yr oeddent yn rhai "a oleuwyd unwaith," ac " a dderbyniasant wybodaeth y gwiiionedd." Clywsant am Grist, a daethant i wybod mai efe oedd Gwaredwr pechaduriaid. 2. Argyhoeddwyd hwynt o wirionedd a dwyfoldeb y grejydd Gristion- ogol—"Profasant ddaionus air Duw." A pha mor bwysig a gwerthfawr argyhoeddiad yw hwn, a bydded i bawb o honom fyw dano yn wastadol. 3. Teimlasant allu yr efengyl ar eu heneidiau—"Profasant nerthoedd y byd, neu yr oes a ddaw." Enw luddewig ar amserau y Messîa. Caw- sant brofíad o'r Ysbryd Glan fel y rhodd werthfawr o'r nef a addawyd i'r byd er's Uawer oes yn ol, a gwnaethpwyd hwynt yn gyfranog o'i ddoniau rhagorol. " Oni phrophwydasom yn dy enw di? ac oni fwriasom allan gythreuliaid yn dy enw di? ac oni wnaethom wyrthiau laweryn dy enw di?" Do, teimlasant allu yr efengyl ar eu calon, ar eu cydwybod, a'u hewyllys. 4. Gwnaethant addefiad cyhoeddus o Grist gerbron dynion. Osluddewon oeddent, daethantallan o'r deml yn Jerusalem ac o'r synagog, gan ymwrthod â chymdeithas Iuddewon anghrediniol. Os o'r cenedloedd y gallasai rhai o honyntfod, ymwadasantâ'u hen gymdeitbion rhagfarnllyd. Ni chymdeith- asent mwyach mewn ystyr greíyddol â neb ond Cristionogion. Eu " cyd- gynulliad eu hunain" y cyfrifent y cynulliadau Cristionogol yn unig. III. Syrthiad ymaith y Cristionogion hyn—" Ac a syrthiant ymaith." Unwaith buont yn sefyll ar le uehel, ond yn awr wele hwynt wedi syrthio Kbrix-l, 187C o