Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DYSGEDYDDi a'R HWN TR UNWYD "YK ANNIBYNWE," (gan hwfa mon). Defnyddir y gair enw, weithiau, i wahaniaethu rhwng gwahanol ber- sonau, megys Cain ac Abel, a dyn a chythraul. Pryd arall, defnyddir y gair i osod allangyflwr peth. " Beth yw dy enw?" ebe Iesu wrth y dyn cythreulig. Yntau a atebodd, gan ddywedyd, " Lleng yw fy enw, gan fod llawer o honom" a byddai yr enw Lleng yn eithaf priodol i lawer un yn y dyddiau hyn, canys y mae llawer o honynt. Dynoda y gair, bryd aratì, natur rhyw swydd a weinyddir. " A thi a elwi ei enw ef Iesu; oblegid efe a wared ei bobl." Arferir y gair hefyd i ar- wyddo rhyw fri ac anrhydedd. Dyn wedi cyflawni rhyw orchest, a thrwy hyny wedi enill iddo ei hun glod ac enw mawr. Ýn yr ysgryth- yrau, dynodir yr hwn y byddo ei enw wedi ei ysgrifenu yn y nefoedd, fel un yn meddu yr enw rhagoraf. Pan ddychwelodd y deg a thriug- ain yn ol at yr Iesu, a dywedyd wrtho fod y cythreuliaid yn ufuddhau iddynt, efe a ddywedodd wrthynt, " Eithr yn byn na lawenhewch, fod yr ysbrydion wedi eu darostwng i chwi, ond llawenhewch yn hytrach am fod eich enwau yn ysgrifenedig yn y nefoedd." Yr oedd cael yr enw o ddarostwng y cythreuliaid yn beth mawr, ond yr oedd cael eu henwau wedi eu hysgrifenu yn y nefoedd yn beth llawer mwy. Nid yw enw da yn hawdd i'w gael. Mae pethau da yn brinion. Hawdd- ach cael anialwch o ddrain, na chael gardd o flodau, a chael traeth o laid na chael blwch o berlau. Felly hawddach yw cael lleng o enwau drwg na chael un enw da. Cyn cwymp Adda, da oedd pob peth yn y byd; ond wedi hyny, troes bob peth yn ddrwg. Tyfodd drain a mieri ar dir y blodau, ac ymledodd cymylau marwolaeth dros awyrgylch y hywyd pur. Ond er fod yn anhawdd cael enw da, nid yw yn anmhos- ibl ei gael. Y mae enwau da yn lluosogi bob dydd, ac y mae eu gogoniant yn myned yn ddysgleiriach yn barhaus. Dywedai Solomon mai " Gwell oedd enw da nag enaint gwerthfawr;" ac yr oedd ef yn addas i roddi barn ar bethau, o herwydd addfedrwydd ei brofiad, ac eangder ei ddoethineb. Yr oedd gwerth mawr ar yr enaint yn ei ddyddiau ef, o herwydd defnyddid ef i eneinio yr offeiriaid a'r brenin- oedd; ond nid yw yr enaint rhagoraf ond darfodedig yn ei loewder a'i berarogledd. Y mae enw da yn tra rhagori arno, oblegid perarogla a dysgleiria yn hwy nag ef. Md yw y gemau, a'r holl bethau dymun- ol, ond megys gwegi yn ei ymyl.. " Mwy dymunol yw enw da na chyfoeth lawer." Tachwbdd, 1876. i