Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

DYSGEDYDD a'r HWN tr unwyd "yr annibtnwr." ferngẃ i <Ì£>ffabh3rìa.eí{j loan f ẃr. (GAN T PAitCH. T. R0B£RT9,-WYD»aRUG). q "Canys Dafydd, wedi iddo wasanaethu ei genedlaeth ei hun trwy ewyllys Duw, a hun- odd, ac a ddodwyd at ei dadau."—ACT. liii. 36. GrYDA phriodoldeb neillduol y galwyd y testim yn feddargraff Dafydd wedi ei ysgrifenu gan Paul; dyna, niewn gwirionedd, ydyw, ae ni cherfiwyd ar fedd erioed argrafí' mwy cywir, cynwysfawr, a nodwedd- iadol o'r gwrthddrych. Gwasanaethu, a "gwasanaethu ei genedlaeth ei him," a hyny "trwy ewyllys Duw," oedd nodwedd arbenig bywyd Dafydd. Dechreuodd gyda y gwasanaeth syml a thawel o fugail ar feusydd Bethlehem; codwyd ef oddiyno i'r swydd bwysig ac anrhydedd- eddus o frenin ar orsedd ei wlad; ac yn mhob cylch a lanwodd, o'r bugail syml i'r brenin anrhydeddus, gwasanaethodd ei genedlaeth er budd dynion, a boddlonrwydd Duw. M bu Israel, yn wladol a chref- yddol, erioed mor llwyddianus ag yn amser Dafydd, a Solomon ei fab, yr hwn a'i dilynodd. Ac nid yn unig gwasanaethodd Dafydd ei gen- ediaeth ei hun, ond trwy wasanaethu ei genedlaeth ei hun mae wedi gwasanaethu pob cenedlaeth er hyny hyd yn awr, ac ni phaid a gwas- anaethu tra bydd ei Salmau melusion ar gael. Yn ei Salmau, mae Dafydd, "wedi marw, yn llefaru eto," a deil i lefaru geiriau o gysur a thangnefedd wrth galonau briwedig cenedlaethau sydd eto heb eu geni. Un o brif fendithion y nef i genedl neu oes yw dynion o nodwedd Dafydd yn arweinwyr iddi—dynion galluog o feddwl, ac ofn Duw yn llywodraethu eu gweithrediadau. Dynion o'r nodwedd yna, ac nid goludogion a rhyfelwyr, ydynt brif nerth a gogoniant pob cenedl ac oes. Gofynodd Louis xiv. i un o'i weinidogion beth oedd yr achos ei fod ef, oedd yn llywodraethu *gwlad fawr boblog fel Ffrainc, yn analluog i orchfygu gwlad fechan fel Holland. "Oblegid," meddai y gweinidog, "nad yw mawredd gwlad yn dibynu ar eangder ei thiriogaeth, ond ar gymeriad ei thrigolion." Eithaf athroniaeth—nis gellir ei gwell. Mae dyn o gymeriad yn allu yn ei oes, a gellir edrych ar y dynion hyny ag mae y ddwy elfen o allu wedi cydgyfarfod ynddynt, sef gallu meddwl, a gallu cymeriad, fel y colofnau sydd yn dal cenedl ar ei thraed; a phan y mae un o'r colofnau yn syrthio, mae yr holl genedl yn teimlo yr ysgydwad. Nid gormod yw dweyd fod un o'r colofnau wedi syrthio yn mar- wolaeth annysgwyliadwy y diweddar Broffeswr Peter, Bala. Wedi cystudd byr o wyth niwrnod, rhoddodd angeu derfyn ar fywyd y dyn Mawrth, 1877. r