Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y. DYSOEDYDD: Jl'r HWN YR UiTWYD "TR ANNIBYNWR." (OAN Y PARCH SIMON EVANS HEBRON). IIL GwNBUTHURWYR GWTRTHIAU. wYna gwyrthiau." " Ai gwneuthurwyr gwyrthiau pawb?" 1 Cor. xiî 28, 29. Gwyrth sydd wyrâd oddiwrth drefn gyffredin natur, na wna awdwr natur, heb amcan neu amcanion pwysig i'w gyrhaedd trwy hyny. Bu gwyrthiau trwy Moses, wrth sefydlu yr Oruchwyliaeth Foesenaidd, pan ddygodd yr Arglwydd ei bobl allan o' dŷ y caethiw- ed yn yr Aifft " â llaw gadarn, ac â braich estynedig, ac âg ofnau, ac âg arwyddion, ac â rhyfeddodau." Gwnaed gwyrthiau trwy y prophwydi enwog Elias ac Ëliseus, pan oedd Baal-addoliaeth wedi myned yn grefydd sefydledig y deyrnas ogleddol. G-wnaeth Duw wyrthiau hynod yn amser y caethiwed Babilonaidd, trwy waredigaethau bythgofiadwy yr Iuddewon anghydífurfiol—Daniel, Hananiah, Misael, ac Azariah. loan Fedyddiwr, er ei fod yn " fwy na phrophwyd," ni wnaeth un ar- wydd, ond pan anfonodd ddau o'i ddysgyblion at ein Harglwydd (pan oedd efe wedi ei garcharu gan Herod) i ofyn iddo, " Ai ti yw yr hwn sydd yn dyfod, ai un arall jt y'm yn ei ddysgwyl?" Gwnaeth yr lesu wyrthiau amryw yn eu gwydd, a dywedodd wrthynt, " Ewch, a mynegwch i Ioan y pethau a welsoch ac a glywsoch; fod y deillion yn gweled eilwaith, y cloffion yn rhodio, y gwahanglwyfus wedi eu glan- hau, y byddariaid yn clywed, y meirw yn cyfodi, y tlodion yn derbyn yr efengyL A gwyn ei íyd y neb ni rwystrir ynof fi." Ystyriai y gweithredoedd nerthol a wnelai yn un o'r tystion oeddynt i brofi ei anfoniad oddiwrth Dduw, Ioan v. 36. "Credwch fi," meddai, "er mwyn y gweithredoedd eu hunain," Ioan xiv. 11. Ac ysgrifenw^'-d y detholiad o'r arwyddion a wnaeth yr Iesu yn ngwydd ei ddysgyblion, fel y credom ni mai yr Iesu yw Crist, Mab Duw, a chan gredu y cafifom fywyd yn ei enw ef. Gwyrthiau mawr yr oruchwyliaeth Gristionogol ydynt ymgnawdoliad, adgyfodiad, ac esgyniad Mab Duw; ond y mae a fynwyf yn yr ysgrif hon â'r gwyrthiau a gyflawnwyd ar ol esgyniad •Crist. Pregethasai yr Iesu efengyl y deyrnas. Adroddwyd hi gan y rhai a'i c!ywsant o'i enau ef—y deuddeg, y deg a thriugain, a mwy na phum cant brodyr a'i gwelsant wedi ei adgyfodiad " ar unwaith." "A î)uw hefyd yn cyd-dystiolaethu trwy arwyddion a rhyfeddodau, ac am- ryw nerthoedd a doniau yr Ysbryd Glan, yn ol ei ewyllys ei hun'" Ebrili, 1877. g