Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DYSGEDYDD: A'B HWN YR UNTWTD " YR ANNIBiTNWR." Sfcagbbûgion <%ítog8 ^rist (gan y parch. s. eyans, hebron). V. Henüeiaid. Nìd yw y gair 7rp«ŵTipÇ (presbuteros), a gyfieithir henuriad neu hyn- afgwr, o'r dechreuad yn golygu un mewn swydd, ond un mewn oedran teg; megys, "A'ch hynafgwyr a freuddwydiant freuddwydion." "Na cherydda hynaígwr." "Trwyddi hi y cafodd yr henuriaid äir da." Dewisid yn gyffredin wŷr o oed a phrofiad i fod yn swyddogion; ac aeth yr enw henadur i gael ei gymhwyso at y swyddog, 'ie, pan ddewisid rhai ieuainc i'r swydd. Dygwyddodd yr un fath i'r gair seneddwr, yr hwn sydd gyífelyb ei ystyr i'r gair henadur, ond yn cael ei ddefnydcüo yn ddieithriad am bob aelod seneddol, hen neu ieuanc. Y mae yn mysg henuriaid ein heglwysi a seneddwyr ein gwlad rai ieuainc iawn, ac eraill mewn gwth o oedran. Y mae yn anhawdd penderfynu bob amser pa un ai at oedran neu swydd y cymhwysir y gair. Ymlithra y naill feddwl i'r llall, fel y cawn yn 1 Tim. v. 17: "Cyfrifer yr henur- iaid sydd yn llywodraethu yn dda, yn deilwng o barch dauddyblyg; yn enwedig y rhai sydd yn poeni yn y gair a'r athrawiafcth." Y mae pob henafgwr yn deilwng o barch: "Cyfod gerbron penwyni, a pharcha wyneb henuriad." Darlunir peidio parchu gwynebau yr henafgwyr fel arwydd o drymder y farn a ddaeth ar Jerusalem. "Coron anrhyd- eddus yw penllwydni, os bydd mewn ífordd cyfìawnder." Y mae yr henadur swyddol yn deilwng o barch dauddyblyg o herwydd ei oed a'i waith. Nid yw y gair a gyfieithir parch, o angenrheidrwydd, yn arwyddo cyflog yn y Testament Newydd, fel y gwelir wrth y defnydd o hono yn y llythyr hwn, "llestr i barch." Gorchymynir i wasanasth- wyr dybied eu meistriaid eu hun yn deilwng o böb anrhydedd (parch), Ue nas gall arwyddo cynaliaeth; ond y mas parch mwy iddo, "yn enwedig" os bydd, gyda llywodraethu yn dda, yn ymboeni yn y gair a'r athrawiaeth. Dengys adnod 18 ei fod i dderbyn cydnabyddiaeth ar- ianol: "Canys y mae yr ysgrythyr yn dywedyd, Na chau safn yr ŷch sydd yn dyrnu yr ŷd: ac y mae y gweithiwr yn haeddu ei gyflog." Y mae rheswm ac ysgrythyr yn cyd-ddysgu hyn. Pan fyddo henadur yn ymroddi i weinidogaeth y gair, gyda llywodraethu yn dda, dylai gael ei gynal heb ymroddi i ffermwriaeth, masnach, gwleidiadaeth, llenyddiaeth, neu oruchwyliaethau bydol, er cynal ei hun, a darbod GoitPHiaîAr, 1877. n