Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DYSGE DYDD: a'r hwn yr unwyd «yr annibynwr." IBgagtogltaùau gc ©gltogst otjÇttottj) g S2äemròogaetf). gan y parch. b. davies, treorci. Y mae perthynas osodedig anwahanol rhwng eglwys Dduw â gweinidogaeth yr efengyl, ac y mae dibyniaeth hollol y rhai a droant yn nghylch y weioidogaeth ar yr eglwysi yn peri bod eu meddyliau yn fwy tyner, ac felly fod siomedigaethau yn effeitliio yn ddwfn.ar eu teimladau. Ar sail y berthynas a nodwyd, dysgwylia y weinidogaeth oddiwrth yr eglwysi y cydymdeimlad dyfnaf â hi yn yr anhawsderau sydd ganddi i'w cyfarfod. Cymer y cydymdeimlad hwnw wahanol ffyrdd i ddangos ei hun. Y mae yn bwysig i'r cyfryw a'i medda fabwysiadu moddion cyfaddas i'w ddangos, ac yn neillduol beidio a cholli amser cyn gwneud. Mae cynaliaeth y weinidogaeth yn gwestiwn o gyfiawnder, ac nid o elusen. Edrychir arni felly gan filoedd nad ydynt yn aelodau eglwysig, y rhai, er eu bod yn am- ddifad o grefydd Crist, eto, ddygant sel angerddol dros gysegr Duw, gwaith Crist, a gweinidogion yr efengyl. Os yw y weinidogaeth wedi methu hyd yma ag enill drosodd i broffes gyhoeddus o Grist f'el Gwaredwr luaws o wrandawyr, y mae hi wedi llwyddo i enill yn eu calonau gydymdeimlad dwfn â'r genadwri, ac â'r rhai a'i traddoda, fel y deil eu parch i weinidog- ion y gair i'w gyferbynu â llawer o gyfeillion goreu y weinidogaeth yn eglwysi Crist. Safodd rhai gwrandawyr yn fiyddlawn mewn amgylchiadau cyfyng. Cyffyrddid â chanwyll eu llygaid pan y difenwid dynion Duw, ac ni phetrusent neidio i'r adwy rhwng picellau llymion gwawdwyr a chalon cenad Crist. Y mae eu hagosrwydd i deyrnas Dduw, a'u parch diffuant i gysylltiadau y cysegr, yn peri i ni wylo am na baent yn gwbl oll yn "Israeliaid yn wir." ünd dysgwylir cael y rhinweddau hyn yn dwyn nod- wedd uwch mewn aelodau eglwysig; a barnwn fod'yn yr eglwysi ddynion a edrychant yn ngoleuni ysbrydolrwydd y gwirionedd ar berthynas gweinidogaeth y gair â'r egl .vysi. Edrychant ar gyfrauu at grefydd yn yr un goleuni ag yr edrychant ar roddi eu pris am y gwerth a dderbyniânt gan fasnachwr, ac ni ddisgynant byth i gymeryd mantais a'r na orfodir hwy i dalu, o herwydd y mae ynddynt ormod o honour i fwynhau llafur caled a budd ysbrydol y weinidogaeth heb dalu yn anrhydeddus am dani. Anrhydeddus, nid anrhydedd yn gymaint o herwydd y swm, ond yn ei chyfartaledd â'r gallu. Gwyddom mai un o'r pethau mwyaf cynil i weinidog yw son am gyfranu, rhag y tynir camgasgliadau. Ond pân yr esgeulusir cymhell ac" anog i'r gras o haelioni, codir a meithrinir eglwysi fyddant byw o dan ddylanwad cyfeiliornad, ac yn y diwedd enillant iddynt eu hunain enw am eu crintachrwydd a'u hangharedigrwydd. Ofnwn y gall fod yn yr eglwysi rai a faddeuant i weinidog yr efengyl bob trosedd; ymatiant ynddo yn y pydewau, ac a roddant iddo gymhorth i ail neu drydydd gynyg ar fywyd cyhoeddus, ond a dramgwyddant hyd angeu with MEDI, 1882. c 1