Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DYSGEDYDD: A'R HWN YR UNWYD "YR ANNIBYNWR." »■»■» SîintwMaìrau (£ttrçttttìw0imt. GAN RÜFFUS. Mynych y dadgenir syndod y dyddiau hyn oblegid amlder y symudiadau sydd yn cymeryd lle yn mysg gweinidogion yr enwad Annibynol yn Nghymru a Lloegr. Ofna llawer fod yr eglwysi yn dirywio mewn crefydd, neu ynte fod y pregethwyr yn myned yn fwy ariangar nag yn y dyddiau gynt. Hònir fod llawer yn symud yn anystyriol, gan siomi dysgwyliadau, a diystyru hawliau cynulleidfaoedd a fu yn garedig iawn wrthynt. Yr un pryd, nid oes neb yn amheu, hyd y gwyddom, nas dichon amgylchiadau godi yn awr ac eilwaith, y rhai a'i gwnant yn berffaith gyfiawnhaol i weinidog symud o un lle i'r llall i gyflawni ei weinidogaeth. Pan fyddo "gweithiwr difefl," ar ol clorianu yr amgylchiadau yn deg, yn panderfynu mai ei ddyledswydd yw newid ei gylch o ddefnyddioldeb, onid i'w Arglwydd ei hun y mae efe yn sefyll neu yn syrthio? Pe yn cefhu ar y gwasanaeth, fel y gwnaeth Demas, gan garu y byd presenol, ni theilyngai ond condemniad cyffredinol. Ond gan na wna ond symud o un cŵr i winllan ei Arglwydd, i lafurio mewn cẁr arall o honi, gan geisio ffrwyth yn amlhau erbyn dydd y cyfrif, meddylir na ddylid ei feio yn drwm, os dylid ei feio o gwbl. Eithr teg yw dal mewn cof fod yr argraff wedi suddo yn ddwfn i galon- au Uaweroedd fod gormod o symud byrbwyll ac anrasol yn bod, ac nas gallai ddygwydd felly oni bae fod llawer o ddiffyg cariad a ffyddlondeb yn yr eglwysi, yn gystal ag o ddiffyg amynedd ac ysbryd hunanaberthol mewn lluaws mawr o weinidogion. Tra yr ewyllysiem i'r rhai sydd yn credu felly ymwarchod rhag chwerwi yn ormodol, nis gallwn gau ein llygaid ar y ffaith fod nifer y symudiadau yn ein henwad bob blwyddyn yn ogymaint fel ag i dynu sylw, a chyffroi beirniadaeth anffafriol o lawer cyfeiriad. Dengys y Congregational Ŷear Boolc am y flwyddyn hon fod nifer y removals, hyny yw, symudiadau o un lle i le arall, oddeutu 140, tra yr oedd nifer y resignations, sef rhai yn rhoddi i fyny heb leoedd i fyned iddynt, yn 86. Yn y rhestr olaf, diau fod rhai yn hen, ac eraill yn afiach, tra y lleill yn teimlo ei bod yn troi yn fethiant arnynt. Gan hyny, wele gynifer a 226 o symudiadau o gwbl wedi cymeryd lle drwy Loegr asChymru mewn blwyddyn o amser. Ambell flwyddyn yn wir, bydd y nifer gryn lawer yn uwch nag ydoedd y llynedd. Yn wyneb hyn, naturiol ddigon fydd i bobl gasglu nad yw sefyllfa pethau o barth y cysylltiad rhwng gweinideg- ion ac eglwysi yn hollol megys y dylai fod yn ein mysg—na all y fath nifer o symudiadau gymeryd lle Heb fod llawer iawn o fai neu o ddiffyg yn bod yn rhywle. Ond y mae eraill i'w cael nad edrychant yn fynych i'r cyfeiriad yna. Eithaf boddlawn fyddant i weinidog symud mor aml ag y tybia y byddo hyny o wir fantais iddo. Eu dadl ydyw nad oes unrhyw ddeddf Ebrtll, 1883. k