Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DYSGEDYDü: a'r hwn yr unwyd "yr annibynwr." GAN Y PARCH. W. EVANS, ABERAERON. "Eithr y mae y cyfiawnder sydd o ffydd yn dywedyd fel hyn, Na ddvwed yn dy galon, Pwy a esgyn i'r nef? (hyny yw, dwyn Crisfc i waered oddi uchod:) Neu, pwy a ddisgyn i'r dyfnder? (hyny yw, dwyn Crist drachefn i fyny oddiwrth y meirw.) Eithr p^ beth y mae efe yn ei ddywedyd? Mae y gairyn agos atat. yn dy enau, ac yn dy galon: hwn yw gair y ffydd, yr hwn yr ydym ni yn ei bresethu; M«i oè cyffesi â'th enau yr Argwydd Iesu, h chredu yn dy galon i Dduw ei gyfodi ef o feirw, cadwedig fyddi."—RhüF. X 6—10. Dywed Moses am y cyfiawnder sydd o'rddeddf, "Maiy dyn awnelypeth- au hyny a fydd byw trwyddynt," ond dywed y cyfiawnder sydd o tìydd fod y "pethau hyny " wedi eu gwneud eisoes drosom. Gan hyny, " Na ddywed yn dy galon, Pwy a esgyn i'r nef? neu, Pwy a d<iisgyn i'r dyfn- der," &c. Nac edryched neb i fyny am Waredwr, y Barnwr a ddaw nesaf o'r nef? Mae y Gwaredwr wedi disgyn ac esgyn. Nid yw gofynion man- ylaf deddf yn rhwystr mwyach i gadwe ligaeth dyn, "Canys Crist yw diwedd y ddeddf, ercyfiawnder i bob un sydd yn credu." Efe yw cyflawn- iad y ddeddf, ac efe yn unig allasai wneud hyny, a thrwy y cyflawniad hwnw galluogir y credadyn hefyd i'w chyflawni mewnyptyr, a rhoddir iddi fwy o anrhydedd nag a allai trwy ufudd-dod personol. Mae trefn Duw yn ymyl dyn yn drefn barod a gorphene 'is:, " Mae y gair yn agos atit," &c. Mae yn syrnl ac eglur, hawdd ei ddeall, a hawdd cydffuröo â'i amodan, "Mai os cyffesi â'th enau yr Arglwyddlesu, achredu yn dy galon i Dduw ei gyfodi ef oddiwtth y meirw, cadwedig fyddi." Nodir adgyfodiad Crist, nid fel yr unig wirioiicld sydd i'w gredu, ond 'el un gwirionedd raawr, yr hwn sydd yn sefyll am, ac yn cynwys pob gwir- ionedd arall am Grist hanfodol i iachawdwriaeth. Yr oedd ei adgyfodiad ef oddiwrth y meirw yn sel ddwyfol ar ei berson, ei athrawiaeth, ei waith, a'i farwolaeth iawnol. Gan hyny, " Na ddywed, Pwy a ddisgyn i'r dyfn- der, i ddwyn Crist drachefn oddiwrth y meirw." Mae wedi cymeryd lle, "yr hwn a draddodwyd dios ein pechodau ni, ac a gyfodwyd i'n cyfiawnhau." Tawed anghrediniaeth a llefared ffydd. Sylwn I. FOD LLEFEltYDD Y GALON YN ERBYN TREFN DtJW, AC FELLY YN RHWYSTR I gadwedigaeth DYN. O'r galon y cyfyd y gwrthwynebiadau mwyaf. Nid yw deddf Duw ar ei ffordd mwyach, ac nid yw y ffaith o bechadurusrwydd dyn yn erbyn ei gadwedigaeth. Yr y'm yn golygu wrth gwrs y galon ddrwg anghrediniol. Trwy ymgynghori â hon, ac â chig a a gwaed, atelir miloedd i gredu yn Iesu Grist. 1. Dywed y galon ddrwg wrth ddyn fod ganddo gyfiawnder ei hun i ymddiried ynddo. Am Israel dywed yr Apostol, " Canys a hwy heb wybod cyfiawn- der Duw, ac yn ceisio gosod eu cyfiawnder eu hunain, nid ymostyngasant i gyfiawnder Duw." Eu tybiau cyfeiliornus am eu hunan-gyfiawnder a'u AWST, 1883. y