Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y D YSGED YDD: a'r hwn yr unwyd "yr annibynwr." ♦••■♦ GAN Y PARCH. R. ROWLANDS, TREFLYS. " Yna y bydd y diwedd, wedi y rhoddo efe y deyrnas i Dduw a'r Tad, wedi iddo ddilëa pob pendefigaeth a phob awduidod a nerth, canys rhaididdo deyrnaau hyd oni osodo ei holl elynion dan ei draed."—1 Cor. XV. 24, 25. " Yna y bydd y diwedd." Mae natur pethau yn dysgu fod dechreu wedi bod i bob peth y mae diwedd iddo; ond nid yw hyny yn profi fod diwedd i fod i bob peth y bu dechreuad iddo. Mae yr hwn oedd yn alluog i ddwyn i fodolaeth yr hyn nad oedd, yn abl hefyd i roddi bodolaeth nad oes diwedd i fod arni. Mae y gallu sydd yn abl i'r naill, yn ein rhwymo i gredu nad yw y llall yn anmhosibl iddo. Mae yn ein byd ni gymaint o gyfnewidiadau, a chynifer o wrthddrychau yn diweddu a bodoli beunydd, nes ein dwyn i gredu fod dechreu wedi bod i'r cwbl a welir yma, ac yna y rhaid fod rhyw achos mawr na bu dechreu iddo erioed, ac na bydd diwedd iddo byth, o'r hwn a thrwy yr hwn y mae pob peth. Mae rheswm yn awgrymu i ddyn fod yn dra naturiol i'r hwn a fodolai erioed, ac a bery byth, roddi bodolaeth hefyd i ryw wrthddrychau a barhant byth fel efe ei hun. Yn ol yr hen syniad uniongred yn mhob oes, credir fod y natur ddynol felly, ac nid yn unig y natur ddynol, ond pob dyn felly yn bersonol. Bu adeg pryd nad oedd dyn, ond ni bydd adeg pryd na byddwn mwy- ach. Mae yn wir y daw adeg, a hyny yn fuan iawn, pryd na "byddwn mwy " yn y fuchedd hon, canys bydd " wyneb " pob un o honom wedi ei "newid," a ninau wedi ein "hanfon i ffordd." Mae diwedd i fod i'r sefyllfa bresenol i bawb o honom. Y mae diwedd hefyd i fod i'r byd hwn yn ei drefn a'i agwedd bresenol; ac y mae yn dra sicr, feddyliem, mai at y diwedd rhyfedd hwnw y mae brawddeg gyntaf ein testun yn cyfeirio. Diwedd y byd. Yr adeg y bydd i'r Crëwr a'r Llywydd mawr ddirwyn i fyny holl amgylchiadau y ddaear hon, yr adeg pryd na bydd "amsermwy- ach," ond y llyncir y cwbl i fyny yn y tragwyddoldeb mawr. Mae cyfeil- iornadau ac ofergoelion lawer wedi bodoli yn mysg dynion o oes i oes ar y mater yma. Mae llawer gau-brophwyd a gau-brophwydes wedi codi mewn manau, ac wedi twyllo a dychrynu llawer trwy hòni hysbysu yr amser y deuai hyn i ben. Dysga yr ysgrythyrau fod yr amser yn ansicr a chudd- iedig i ni; ond cynwysa yr ysgrythyrau wirioneddau ac egwyddorion a brofant yn eglur nad yw hyny i gymeryd lle yn fuan, ac na ddaw hyny i ben hyd nes y byddo amcanion a bwriadau gogoneddus Duw am iachawd- wriaeth y byd wedi eu cyrhaedd a'u cyflawni—gwaith gras ar y ddaear wedi ei orphen, a'r deyrnas wedi ei rhoddi i fyny i Dduw a'r Tad—"yna y bydd y diwedd." Mae hyn yn awgrymu fod y byd yma yn ei drefn bresenol yn cael ei Medi, 1883. 2 B