Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DYSGEDTDD: a'r hwn yr unwyd "yr annibynwr." Mae y termau " Gweinidogaeth sefydlog " a " Gweinidogaeth deithiol " yn eiriau y deallir eu hystyr yn Nghymru ar unwaith. Nid amcan yr ysgrif- enydd yw cyferbynu manteision ac anfanteision y ddwy weinidogaeth. Mae hyny wedi ei wneud lawer o weithiau, a hyny yn fynych er anfantais i'r weinidogaeth, ar gyfrif y geiriau cryfion a arferwyd, a'r ysbryd chwerw a ddangoswyd yn yr ymdriniaeth â'r cwestiwn. Mae cyferbynu yn waith sydcl yn gofyn manylwch a phwyll. Gellir gweithio cyferbyniaeth allan i eithafion. Ni ellir clorianu pethau yn unig, am fod tuedcl i roddi personau hefyd yn y glorian; a gwell gan rai gael Tecel wedi ei ysgrifenu uwch eu penau hwy eu hunain nag uwchben eu syniadau. Os bu yn fuddiol i ddadleu ar fanteision a,o. anfanteision gweinidogaeth yr Efengyl yn ei ffurf "sefydlog" neu "deithiol," yn ddiamheu nicl yw y blynyddau yma yn adeg ffafriol i hyny. Mae gan y weinidogaeth i brofi peth pwysicach, peth ag y mae ei bywyd yn dibynu arno, ei chymeriad i gael ei esbonio wrtho, a'i dylanwad i gael ei fesur ganddo. Nid y ffurf a roddir iddi gan wahanol enwadau yr ymosodir arno yn bresenol, ond ei hanfod fel y cyfryw. Mae y duedd sydd yn y medclwl i redeg i eithafion yn anfantais iddo i wneud cyfiawnder â'r hyn sydd yn groes i'w deimladau a'i syniadau. Mae y byd yn gweithio allan syniadau o dan ddylanwad teimladau, ac hyd nes y santeiddir teimladau dyn, bydd syniadau yn rhwym o ddyoddef anfantais—anfantais i wrthweithio yr hyn sydd yn wrong, neu i hyrwyddo yr hyn sydd right. Mae y dyn sydd yn darostwng ei deimlad i reswm, yn agored i dderbyn goleuni, ac ni bydd neb yn ofni dangos iddo ei gyfeiliornad; ond y mae y dyn sydd yn dyrchafu ei deimlad uwchlaw ei reswm, }Tn tarlu am dano ei hun gylch yr ofna pawb fyned o'i fewn, a theimla pawb fod eu perygl oddi- wrtho yn gyfryw, fel y gadawant ef ei hun i wynebu ei berygl. Un o'r an- fanteision mwyaf y gall dyn roddi ei hun yn agored iddo yw taflu ei hun allan o gylch, fel ag y teimla cyfeillgarwch nas gall fyned ato; a hyn yw tynged pawb sydd yn byw i'w teimladau. Cynorthwyon yw teimladau wedi eu bwriadu, gwnant y peth yn fwy anwyl neu yn fwy atgas. Gwres- fesurydd yw teimlad, yn by w ac yn gweithredu yn fynych o dan ddylan- wadau allanol. Dichon nad oes dim yn cymeryd lle mwy amlwg yn hanes yr Eglwys Gristionogol na'r Weinidogaeth, ac nid oes dim yn profi ei dwyf- oldeb yn fwy na'r dylanwad a garia ar galon a chydwybod y byd. " Éid yw hi ddynd." Yr oedd brawddeg felly yn angenrheidiol ar gychwyniad allan ei chenadwri, ond erbyn heddy w, y mae ei thystion hi yn mhob dinas, ei dylanwad yn anfesurol, a'i heffeithiau yn anwadadwy, er fod ambell i Iuddew yn dweyd eto mai cythreuliaid sydd yn bwrw eu gilydd allan. Po uchaf y bydd yr eglwys mewn rurdeb, po fwyaf llwyddianus y byddo yn HYDREF, 1883. 2E