Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DYSGEDYDD: a'u hwn yu unwyd "yr annibynwr." ^rçfìifcb mc\vn f>amramaEffj a €íivvfy>ì(ìi W rçt (fèfoatííj. GAN Y PARCH. W. WILLIAMS, ABERCARN. "Felly ffydd hefyd, oni bydd ganddi weithredoedd, marw ydyw, a hi yn unig."—IagO ii. 17. Nid oes gwir ffydd heb weithredoedd. Mae gweithredoedd da yn codi o ffydd. Y mae perygl i osod gweithredoedd yn gyfochrog â ffydd, ond dylid eu gosod ar ol ffydd. Nid oes ffydd wirioneddol heb weithredoedd, ac nid yw gweithredoedd yn dderbyniol a chymeradwy gan Dduw heb ffydd, "oblegid pob peth nad yw o ffydd, pechod yw;" eto y mae gweithredoedd yn profi fod fíydd, ac y mae ffydd heb weithredoedd yn farw, oblegid gweithredoedd sydd yn dangos, yn gystal ac yn amlygu bywyd; os na fydd dyn yn gweithredu, mae hyny yn brawf ei fod yn farw. Mae ffydd gau yn farw, nisgall weithredu mwy na chorfí marw; nis gallhwnw sefyllarhodio, am ei fod yn farw. Nid yw ffydd farw yn ein dwyn i Grist. Mae ffydd fywiol yn ffydd weithgar. Mae hon yn gosod bywyd yn ein dyledswyddau crefyddol. Nid yw gweithredoedd meirwon yn gwasanaethu y Duw byw —ffydd yw bywyd ein bywyd. Dyma ysbryd y peth byw sydd yn troi holl olwynion ein hufudd-dod. Po fwyaf o fywyd fydd yn ein ffydd, mwyaf santaidd fydd ein gweithredoedd. Sonir am ffydd fywiol a gobaith byw- iol, dyma yr amser y teimla y dyn nerth bywyd ysbrydol; os na fydd genym ffydd fywiol, marwaidd a difywyd fyddwn gyda chrefydd. " Os yw Crist ynoch," y mae yn fyw ynoch, nis gallwn fyw gyda Christ heb fyw yn Nghrist, ac y mae pawb sydd yn byw yn Nghrist yn dwyn ffrwyth i Dduw. Mae ffydd a gweithredoedd yn y testun, ac y mae y naill i fod yn brawf o'r llall; crefydd mewn damcaniaeth a chrefydd mewrn ymarferiad sydd yma. I. Crefydd mewn damcaniaeth. 1. Crefydd yn y deall dr pen ac nid yn y galon a'r bywyd yw hon. Mae llawer yn damcanu yn gywir am grefydd, ond nid ydynt yn byw crefydd. Deallant grefydd fel cyfundraeth, ond nid yw crefydd yn egwyddor fyw ynddynt. Mae eu gwybodaeth yn helaeth a'u barn yn gywir, ond nid oes gweithredoedd yn canlyn. Nid yw eu credo yn effeithio ar eu bywyd, o ganlyniad, ffydd heb weithredoedd sydd ganddynt; y maent yn gwybod ffordd cyfiawnder, ond ni fynant rodio ynddi. Un peth yw damcaniaeth, peth arall yw bod yn ymarferol; un peth yw gwybod ewyllys Duw, peth arall yw ei gwneuthur. Pobl hynod yw y Ffrancod am theory,ona\m fedr- ant weithio allan eu theories; y maent yn rhai campus i dynu allan eu ffurf- lywodraeth, ond nid oes ganddynt amynedd a gallu i'w gweithio i ymar- feriad; un peth yw crefydd yn y theory, peth arall yw crefydd yn ei gwaith. Nid yw goleu yn y pen yn ddigon heb ras yn y galon, mae yn rhaid gwella y galon yn gystal a goleuo y pen. Mae miloedd wedi m, ned i uffern a goleu yn y pen, nis gall pen goleu a chalon aflan fyned i'r nefoedd; ond pwy TachWEDd, 1883. 2 h