Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DYSGEDYDÜ: a'r hwn yr unwyd "yr annibynwr." Hen Gyf.—784.] RHAGFYR, 1884. [Cyf. Newydd.—154. "Etraç Üîatt" a "Ctebŵuìẃ Eifmttu*." GAN Y PARCH. H. ELYET LEWIS, HULL. "Cedrwydd Libanus, y rhai a blanodd Efe; lle y nytha yr adar."—Salm civ. 16, 17. ÜYMER John Euskin arno i ddatgan fod pob buddugoliaeth drwyadl a enillwyd hyd yn hyn gan wyddoniaeth naturiol, wedi ei rhagflaenu yn y Salm hon. Ei ymresymiad amlwg yw, fod y bardd Hebreig wedi gweled " y llewyrchiadau tragwyddol" sydd yn pelydru y tu ol i'r Uen faterol; tra y mae mwyafrif efrydwyr gwyddonol ein hoes ni yn treulio eu henaid i archwilio ac edmygu y llen ei hun. Nid y datguddiad uwchaf yn un o ddarluniau Turner yw gwneuthuriad y caiwas, na chyfansoddiad y lliwiau; ond swyn yr ysbrydoliaeth fy w sydd yn aros yno byth mewn mireinder a newydd-deb digymbar. Nid yw yn talu ei ffordd i feddyliaeth grefyddol yr oes hon ddirmygu y dull gwyddonol o ddarllen llyfrau natur; a llawer llai y gall gwyddoniaeth ddidwyll esbonio gwaith Duw heb gymhorth y meddwl ysbrydol. Yr ydym ni mor barod a'r gwyddonydd mwyaf brwd- frydig i edmygu deddfau natur; ond yr ydym am fyned yn mhellach yn mlaen i addoli y Meddwl sydd wedi crëuy deddfau. Yr ydym yn edrych ar y peiriant gyda syndod cynyddol; ond nis gallwn anghofio y llaw ddys- glaer sydd wedi ei chuddio yn mhlith yr olwynion tanllyd. Y mae "cedrwydd Libanus" yn dangos mwy na nerth chwareus rbyw "allu dall" difesur: y maent yn rhan o gyfanwaith dwyfol. Y mae "yr adar mân" yn dangos mwy na chywreinrwydd celfyddydol; y maent yn profi fod Duw yn hoffì pethau bach prydferth, ac yn gofalu yn dda am danynt. i^yna'r ysbryd yn mha un yr oedd y Salmydd yn darllen barddoniaeth y nefoedd ar bob dalen o'r cread. Yr oedd adenydd a blodau, afonydd a dyffrynoedd, creigiau a chwningod, "y môr mawr llydan" a'r lefiathan, yn odli â'u gilydd yn y gân soniarus anfeidrol. Y mae yn rhaid i ddyn ddyfod i dymher ysbrydol cyn deall unoliaeth datguddiadau Duw. Amcan crefydd yw esbonio cyfander gwaith y Creawdwr, a myned heibio i ddysgeidiaeth anmherffaith y "llinyn mesur," er mwyn cyrhaedd y wybodaeth santaidd sydd yn cael gafael ar y drychfeddyliau tragwyddol yn mhob rhan o'r gwaith. Yr oedd cedrwydd Libanus yn eu holl gadernid a'u gogoniant wedi eu trefnu gan ddoethineb Duw i fod yn nythle " yr adar mân "—fel y dylid cyfieithu y geiriau. Yr oedd telynorion crwydrol yr awyr yn cael cartref dedwydd yn y coed o blaniad yr Arglwydd: y mawr yn rhoddi nodded, a'r bach yn rhoddi cân. Felly y mỳn Duw. Yn ngoleu y darlleniad ysbrydol hwn o wersi natur, sylwn— l 1