Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DTSGEDYDD: a'r hwn yr unwyd "yr annibynwr." Hen Gyf.—761.] GORPHENAF, 1885. [Cyf. Newydd.— 161. PREGETH ANGLADDOL Y PARCH. T. EEES, ABERTAWT.* GAN Y PARCH. J. THOMAS, D.D., LE'RPWL. " Oblegid yr oedd efe yn wr da, ac yn llawn o'r Ysbryd Glan, ao o ffydd; a llawer o bobl a chwanegwyd i'r Arglwydd."—Actau xi. 24. Am Barnabas y dywedwyd hyn: Cypriad o genedl, o lwyth Lefi, ac ym- ddengys ei fod yn wr o gryn urddas yn mysg ei bobl. Mae traddodiad, mor foreu a dyddiau Clement o Alexandria, ei fod yn un o'r deg a thriugain. Ei enw gwreiddiol oedd Joseph, ond galwyd ef gan y dysgybl- ion yn fab y brophwydoliaeth, neu fab y cynghor, yr hwn hefyd a gyfieithir yn fab dyddanwch. Tybai rhai fod Saul o Tarsus ac yntau yn adnabyddus â'u gilydd cyn dychweliad y naill na'r llall, oblegid i Barnabas gael ei anfon i Tarsus i dderbyn ei addysg. Gan ei fod o lwyth Lefi, y mae yn bosibl ei fod yn cymeryd ei ran yn ngwasanaeth y deml; ac felly ei fod wedi cael llawer cyfle i wrando yr Arglwydd Iesu Grist yn ei wein- idogaeth bersonol. Yr oedd yn un o aelodau blaenaf ac amlycaf yr eglwys yn Jerusalem. Pan gyfododd yr erledigaeth fawr, yn nglŷn â'r hon y llabyddiwyd Stephan, gwasgarwyd y dysgyblion; ond dygwyddodd hyny, fel y mae yn dygwydd bob amser, "yn hytrach er llwyddiant i'r efengyl." "Aeth Phylip i waered i Samaria, ac a bregethodd Grist iddynt;" a bu y fath lwydd- iant, nes "yr oedd llawenydd mawr yn y ddinas hòno." Aeth rhai i Phenice, i ddinasoedd Tyrus, a Sidon, a Ptolemais; y rhai oedd sylfaenwyr yr eglwysi a gawn yn y lleoedd hyny; ac aetb rhai gwŷr o Cyprus ac o Cyrene i Antiochia, ac a "lefarasant wrth y Groegiaid, gan bregethu yr Arglwydd Iesu." Pwy oeddynt, nis gellir gwybod. Gall fod Lucius o Cyrene yn un o honynt. Yr oedd ef yn aelod amlwg yn yr eglwys ar ol hyn. Dichon fod Simon o Cyrene, " yr hwn a gymhellasid i ddwyn ei groes ef," yn un o'r nifer, oblegid tybir ei fod yntau hefyd yn ddysgybl i'r Iesu; ond nid oes gwybodaeth sicr pwy oedd sylfaenwyr yr eglwys yn Antiochia, mwy na'r eglwys yn Ehufain. Ond bu llwyddiant mawr ar eu gwaith, oblegid yr oedd " llaw yr Arglwydd gyda hwy;" ac ni waeth pwy fyddo yr offerynau, ond cael llaw yr Arglwydd i gydweithio. Cyrhaedd- odd " y gair i glustiau yr eglwys yn Jerusalem " am y peth, ac ond odid nad oedd yno lawer yn tybied fod afreoleiddiwch mawr yn nglŷn â'r hyn oedd yn cymeryd lle; ac y maent yn anfon Barnabas i edrych eu helynt ac 1 Traddodwyd y bregeth uchod yn nghapel Walter's Road, dydd Mawrth, Ma 5ed, 1885, yn angladd y Parch. Thomas ílees, D.D., Abertawy.