Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DYSGEDYDD: à'r hwn yr unwyd "yr annibynwr." Hen Gyf.—773.] GORPHENAF, 1886. [Cyf. Newydd~L7& Craçfíîrárau ^uftnttsbbal. ADGYFODIAD CRIST. GAN Y PAECH. J. THOMAS, D.D., LIVERPOOL. Adgyfodiad yr Arglwydd Iesu Grist ydyw gwirionedd mawr yr efengyl. Mae pob gwirionedd arall yn oblygedig yn hwn. Mae dwyfoldeb ei berson, diigelwch ei ymgnawdoliad, gwirioneddolrwydd ei wyrthiau, a gwerth a haeddiant ei ddyoddefiadau a'i angeu, oll yn hongian ar ei adgyf- odiad. Rhaid i bob gwirionedd arall sefyll neu syrthio wrth y gwirionedd mawr yma. Gwnaeth rhywun y sylw fod teml orwych Cristionogaeth wedi ei hadeiladu ar fedd gwag yn ngardd Joseph o Arimathea, a phe gellid profi mai fíug yw hyny, y mae yr holl adeilad ar unwaith yn disgyn yn garnedd i'r llawr. Prawf-wirionedd Cristionogaeth ydyw adgyfodiad yr Arglwydd Iesu. Gwrthddadleuir gan rai yn erbyn y trefniad o osod gwirionedd Cristionogaeth i ymddibynu ar uu ffaith, a haerant y dylasai oyfundrefn mor honiadol gael ei hategu gan gyfres o ffeithiau neu gadwyn o resymau. Dichon mai llawn digon o atebiad i wrthddadl o'r fath fuasai dweyd, os yw y credadyn yn foddlawn i'r trefniad, y dylai pawb arall fod, ac mai yr anffyddiwr o bawb ddylai fod y diweddaf i ddweyd gair yn ei erbyn, oblegid y mae y mwyaf manteisiol sydd yn bosibl iddo ef, gan mai lleiaf oll o waith gwrthbrofi sydd ganddo. Nid rhaid iddo fyned i'r drafferth i ddadrys cadwyn o resymau, neu droi yn ol gyfres o ffeithiau, y cwbl a ofynir ganddo ydyw profi na chyfododd Iesu o Nazareth o fedd Joseph foreu y trydydd dydd, a dyna y cwbl ar ben. Mae y trefniad y tecaf sydd yn bosibl i elynion Cristionogaeth, ac y mae hefyd y mwyaf caredig i gyf- eillion y Gwaredwr. Ni buasai cadwyn o resymau neu gyfres o ffeithiau yn ddim ond rhywbeth i athronwyr, ond y mae gosod y cwbl i droi ar un ffaith bwysig—adgyfodiad yr Arglwydd íesu—yn dwyn profion Cristion- ogaeth yn ddealladwy i'r gwanaf ei amgyffredion. Ac y mae hyn yn hollol gyson â threfn arferol Duw o weithredu. Yn mhob trafodaeth fawr ihwng Duw a'r byd gosodir y cwbl i droi ar un peth. Gosodwyd tynged y byd yn yr Adda cyntaf i droi ar un peth— bwytaneu beidio bwyta o ffrwyth y pren gwaharddedig. Llawer o ddadl- eu sydd wedi bod erioed yn erbyn y trefniad. Pa reswm fod pawb yn gorfod dyoddef canlyniadau un weithred o eiddo un dyn? Wel, ymae yn ddigon hawdd dadleu yn ei erbyn, ond felly y bu, os nad ffug y\v yr holl hanes. Mae tynged y byd yn yr Ail Adda yn troi ar un peth—credu neu anghredu. Nid oes o weithredoedd da, nid bywyd o gyfiawniadau defosiynol sydd yn cadw, ond " credu yn enw uniganedig Fab Duw." "Yr