Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DYSGEDYDD: a'r hwn yr unwyd "yr annibynwr." Hen Gyf.-787.] MEDI, 1887. [Cyf. Newydd-187. GAN Y PARCH. B. DAVIES, TRELECH. Cwestiwn cellweirus Edoiniad gelyniaetlms, i brophwyd cenedl etholedig yr Arglwydd ydyw, cenedl oedd yr adeg hòno yn myned drwy oruchwyliaeth a fwriadai Duw i wasgu allan o honi bob anffyddlondeb i gyfamod eu tadau, bob tuedd i ŵyriad oddiwrth y gorchymynion santaîdd, ac a gylymai eu calonau o hyny allan yn sierach wrth Dduw a'i wasanaeth. Yr oedd yr amgylchiadau yr oedd y genedl ynddynt yn gyfryw ag a gyfreitblonai yr enw awgrymiadol sydd yn y gofyniad, "nos;" adeg dywyll a du, gymylog a thymhestlog, ceryddiadau gwialen farnedigaethol Duw ar yr unig bobl a ddygai enw Duw ar y ddaear; y bobl yr oedd eu holl hanes yn gydweuedig â thrugaredd; ond y pryd hwnw yr oeddynt yn wawd cenedloedd estronol, a chyfarchiadau y gelynion yn eu hadgofio o sefyllfa well. Ai tybed mai yr adeg hòno yn unig y bu dynion yn byw mewn goruchwyliaeth.au na ddeall- ent; y llenwid meddyliau pryderus âchwestiynau am ganlyniadau yn gystal ag am achosion gweinyddiadau aneglur Duw; ac y bu amgylchiadau cenedl- oedd mor ddyrus, fel na feiddiai doethion ragfynegu y dyfodol agos—am- gylchynid y cyfan gan niwl a thywyllwch, fel y troai y bobl at brophwydi Duw, gan ofyn, Beth am y nos ? Onid yw cymdeithas wedi ac yn myned drwy amgylchiadau yn mhob oes sydd yn anesboniadwy tra yn eu canol; amgylchiadau sydd yn berwi i fyny y cwestiwn yn nghalon dyn, beth am y nos? ac onid y w y cwmwl du sydd yn crogi uwchben ein gwlad yn y dyddiau yma, yn fasnachol, gwladol, a chrefyddol, yn profì mai peth peryglus yw prophwydo hyd yn nod am bethau a ymddangosant yn ayos, gan mor gyf- newidiol yw amgylchiadau gwladwriaeth? Dywedir yn hyf gan rai ddyíent wybod, fod y cynydd y mae cymdeithas wedi ei wneud i gyfeiriad gwirion- edd yn yr haner caurif diweddaf, yn fwy nag a wnaed mewn un ganrif yn flaenorol, ac o bosibl bod llawer o'r cynhyrfiadau sydd yn aflonyddu y byd heddyw yn ddylanwad anuniongyrchol gwirionedd dwyfol. Oni ddywed- ir i'r gwrthryfel yn America i gael ei brysuro gan y diwygiad crefyddol grymus aysgydwodd y wlad yn flaenorol, diwygiad a ddeffrodd gydwybod y genedl i iawnderau dynoliaetli, ac a addfedodd y farn gyhoeddus i gondemn- iad hollol ar y gaethfasnach? Mae yr arwyddeiriau sydd heddyw ar fanerau gwahanol adranau cymdeithas, yn arwyddo mai drwy frwydrau celyd y diogelir cyfiawn hawliau dyn. Adeg dywyll yw ar ein gwlad, mor dywyll fel y mae y ffydd gryfaf mewn perygl o arfer geiriau cryfach na'i nerth. Pa beth tybed sydd yn cyfrif am yr amgylchiadau presenol? Pa rai yw y perygl- on a amgvlchynant y cenedloedd? Beth yw y rhwystrau sydd ar ffordd gorymdeitîiiad buddugoliaethus teyrnns i lwyddiant a gwir ddedwyddwch? Beth sydd yn gwneud y nos yn dywyll y mae ein gwlad yn orehuddiedig 2 B