Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

a'r hwn yr unwyd "yr annibynwr." 'HI Hen Gyf.—825, TACHWEDD, 1890. Cyf. Newydd.—225. GAN Y PARCH. JANSEN DAV1ES, CLECKHEATON. Cartref ydy w mamaeth y byd, allan o hono y derbynia y genedl a'r eglwys eu hadnoddau. Y teulu yw sylfaen pob sefydliad, ac ar ei nodwedd ef y dibyna eu natur a'u rhagoriaeth.au. Byddai aros ar holl gysylltiadau y teulu, a'r dyledswyddau ydynt yn codi o hyny, yn gofyn cyfrol helaeth. Nid oes genyf ond hen wirioneddau i'w cynyg, ond y mae gwirioneddau amlwg yn debyg i'r ser sefydlog yn ein galluogi i fordwyo yn ddiogel; tra nad yw gwreiddiolder dirdynedig ond goruchionen yn enill sylldremiad y llygaid, ond yn peri i'r traed lithro. Y nod uchaf, yr amcan mwyaf cysegredig i'r cysylltiad priodasol ydyw cyfodi had i Dduw a thragwyddoldeb. Y cartref ydyw meithrinfa yr eglwys a'r ysgol ragbarotoawl i'r nefoedd. Amcana crefydd yn y cartref yn benaf at iachawdwriaeth dragwyddol ei aelodau. Pan y mae calon y tad wedi cael ei rhoddi i Dduw, ymdrech gyntaf ei enaid fydd dros ei deulu. Wedi i'r ysbryd drwg gael ei yru allan o'r dyn a feddienid ganddo, ac ar ol iddo gael ei ddwyn i'w iawn bwyll, ei ddyledswydd gyntafi'w Gymwynaswr mawr oedd "Dychwelyd i'w dŷ, a dangos faint o bethau wnaethai Duw iddo." Y mae yn anhawdd credu mewn crefydd bersonol nad yw yn gyntaf yn dangos duwioldüb gartref. Eglwys gyntaf Duw yw y cartref, ac y mae y tad wedi cael ei nodi, drwy ordeiniad dwyfol, yn weinidog. A'r fath gyfleusdra ardderchog a roddir yn y cartref i ddwyn i fyny had duwiol. 1. Derbynia y rhieni y plentyn mewn cyflwr hawdd iawn i ddylanwadu arno. Gellir moldio ac argraffu ar yr ienanc yn rhwydd. Y pryd hwn sudda y sel yn ddwfn i'r cwyr hydwyth. Y maent fel yr awel yn barod i ddirgrynu wrth bob anadliad a ddyry eu rhieui. Credant ac ymddiriedant yn drwyadl yn eu rhiaint. Ymresymai bachgen bychan wrth ddadleu â'i chwaer fel hyn: "Y mae yn wir, am fod mam yn dweyd ei fod, ac os yw mam yn dweyd ei fod, y mae felly, hyd yn nod pe na byddai." Megys y rhydd y blodau i'r haul pan y maent yn llaith a thyner y cyfleusdra goreu i ffurfio eu lliwiau prydferth, felly y mae ieuengrwydd yn meddu y cymhwysder goreu i dderbyn argraffiadau, ac y mae yr argraffiadau a wneir yn foreu yn parhau drwy yr oes. Dywed daearegwyr y gellir canfod ol traed adar ar y creigiau adamant, argraffiadau a wnaed pan oedd y creigiau hyny mewn cyflwr o feddalwch. Felly y bydd argraff eich dylanwad a'r dygiad i fyny a roddwyd ar ddechreuad y bywyd ieuanc yn parhau drwy eu holl hanes. Yr ydych yn sefyll wrth darddiad yr afon sydd a'i therfyn- 2 i