Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

a'r HWN Yll UNWYD í:îR ANNIBYNWR." Hen rivF.-S45. GORPHENAF, 1892. Cvf. Newydd-245 GAN Y PARCIL L. PROBERT, D.D., PENTllH. " No age can aíîord to ignore a series of facts which has effected an undeniable revoluüon in every department of life and thought and action."—Reynolds. Anwyi/Frodyr> Thadau, Pan ôsodasoch' arnaf yr anrhydedd o'rn hethol yn gadeirydd y Gymanfa hon, deallwn y bnasid yn dysgwyl anerchiad oddiwrthyf ar yr achlysur presenol, ond methwn ara dymhor maith ddewis testun i'ch anerch oddi- arno o gadair a lanwyd mor deilwng yn y gorphenol, gan gynifer o wŷr grymus; ac y mae rhai o honynt, er llawenydd i ni, yn ein mysg, os ydyw Uawer o honynt yn huno. Yn ddiweddar, awgrymodd dau frawd sydd yn bresenol y priodoldeb i mi gymeryd " Eglwys y dyfodol" yn bwnc, ond teimlwn êi fod yn un rhy eang i mi. Wedi hyny darllenais gyfrol newydd a eiwir yn " Eglwys Yfory," ac ymddangosai hwn eto yn bwnc rhy gyfyng yn fy ngolwg, a ffydd yr awdwr yn un rhy wan wrch gyfyngu ei obeithion tufewn i furiau "yfory." Felly penderfynais gymeryd tir canol rhwng y ddau fater a nodwyd, a darparu ychydig nodiadau ar y testun uchod. Os nad ellir dweyd pa fath un a fydd eglwys y dyfodol peîl, oddigerth yn ngol- euni yivYsgrythŷr, profa arwyddion yr amserau i raddau helaeth beth fydd eglwys'yr oesau nesaý atom. Fel y dèngys natur y ffrydiau a lifant i'r liyn ansawdd ei ddwfr, felly gellir ffurfìo barn, oddiwrth ogwyddiadau meddyliol yr oes hon, beth fydd gweithredoedd y rhai dyfodoì, nes maigeiriau doeth- wr ydyw y rbai uchod o eiddo Dr. Eeynolds. 0 ganlyniad, erfyniaf eich sylw am ychydig amser, tra fyddaf yn ceisio gosod gerbron fraslun oeglwys y ganrîf nesaf, fel yr ymddengys i mi yn ngoleuni yr oes bresenol. Profa ysbryd gwyddonol y dyddiau hyn mai y Beibl fydd PRIF LYFR YR EGLWYS. Yr hyn a olygir wrth yr ysbryd gwyddonol ydyw y duedd i ddilyn ffeith- iau, yn hytrach na thybiau, a theimlar'au: a diau fod yr ysbryd hwn wedi ffynu mwy yn y chwarter canrif diweddaf, nag a wnaeth mewn unrhyw oes arall ?yn hanes y byd. Ymleda at bob peth, a dringa i bob man. Nid ymgudd dim rhagddo, a'r unig ddiogelwch yn ei wyneb ydyw agosrwydd at y gwirionedd". Nid yn unig chwilia dudalenau llyfr natur, ond llafuria hefyd ar hyd feusydd y datguddiad dwyfol, fel y dengys y feirniadaeth uchaf (higher criticism), a'r holl esbonio manwl sydd ar yr Ysgrythyrau y dyddiau hyn. Er y prydera rhai rhag ofn iddo ddileu yr elfen ddwyfol o'r Gair, fel yr ofnid flynyddau yn ol y buasai yn gwrthbrofi dwyfol-awduraeth y greadig-