Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

a'r hwn yr unwyd "yr annibynwr." Hen Gyf.—84S. HYDREF, 1892. Cyf. Newydd—548. a'c (fèau. GAN Y PARCH. B. DAVIES, TRELECH. Mae y ddau air byr uchod yn cynrychioli y gwahaniaethau mwyaf sydd yn bosibl, gwahaniaethau nas gellireu dilëu na'u cysylltu; gwahaniaethau ag y mae pob goleuni mewn dysg, pob dadblygiad mewn rhinwedd, pob cynydd mewn gwybodaeth, a phob dymuniad am burdeb a sylwedd, yn agoshau dyn at y cyntaf, gan ei bellhau oddiwrth y diweddaf; yn caru y naill, ond yn casâu y llall, yn crëu yn nyfnder enaid dyn erfyniad angerddol am feddianu y naill, ond yn gosod ynddo ofn a braw rhag cael ei feddianu gan y lla.ll. Ymchwil penaf, aiddgaraf, a mwyaf dyfalbarhaol y meddwî ystyriol yw ei ymchwil am y gwir— ac er cymaint ei lygredigaeth, a bod ei drueni yn annychymygadwy, eto ni dderbyniodd y meddwl ddim erioed, ond yr hyn a dybiai ef oedd a delw gwirionedd arno. Cyfaddefwn gyda gofid, fod yn ei hanes elfenau gwahanol, anwylodd bethau oeddynt yn anghydnaws â'i safle, yn annheilwng o'i dynged ddwyfol, yn anghydweddol âg amodau ei gynydd tragwyddol, ac yn diffodd addewidion ag yr oedd T)uw ei hun wedi eu gosod yn ei ddyfodol pwysig digyfnewid—ond gwnaeth hyn mewncam- gymeriad, camgymeriad a ddanodir iddo gau y diog, ond y mae camgymer- iadau meddwl effro, meddwl sydd yn fyw i'w anghenion, meddwl nad yw yn gwnead iddo ei hun orphwysfa, ond mewn gwirioneddau moesol ac ysbrydol, mae camgymeriadau meddwl felly yn fwy maddeuadwy gan Dduw, ac yn llai niweidiol i drìynion na'r hunanfoddlonrwydd pechadurus a nodwedda feddwl segur. Gwirionedi yw cartief meddwl, ond y mae yn dyfod iddo drwy anialwch, a melusaf oll y bydd cartref o herwydd hyny. Gan fod gwerth y gwir mor fawr, a'r perygl o feddu ei wrthgyferbynydd yn llawn cymaint, ceisiwn nodi allan rai gwahaniaethau pwysig sydd rhyngddynt er mantais i'w hadnabod. I. Mae y gwir yn ffaith, dychymyg yw y gau. Amgylchynir dyn gan ffeithiau, y rhai nis gellir eu gwadu. Nid yw yn canlyn eu bod oll yn amgyffredadwy, nid yn unig y mae llawer o ffeithiau pwysicaf bodolaeth yn anamgyffredadwy i'r meddwl yn y sefyllfa bresenol o ddadblygiad, eitbr ymddengys rhai o honynt yn anghyson âg eraill, a llawer o honynt fel pe yn milwrio yn erbyn ffeithiau ein hymwybyddiaeth a thystiolaeth ein rheswm. (Jnd pan gofiom bod yr oes hon wedi gosod eisoes yn mhlith y pethau a gredir, yn ddiamheu, lawer o bethau a osodid gan oesoedd blaenorol yn mhlith y dirgeledigaetb.au a gadwodd Duw iddo ei hun, dylai dynion fod yn ochelgar rhag gwadu yr hyn a all fod yn wirionedd, rhag iddynt wrth wneud hyny groesi y terfynau a berthyn iddynt, a gosod eu traed ar dir 2e