Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

A'R HWN^YR UNWYD " YR ANNIBYNWR." Hen GYP.-850. RHAGFYIi, 1892. Cyf. Newydd—250. I BA LE YR YDYM YN MYNED? GAN Y PABCH. B. DAVIES, TRELECH. Y mae symudiadau cyflym a chyffroadau byw cymdeithas yn y blynyddoedd hyn yn arwydd o ddeffroad cenedloedd i gwestiynau a ddylasent fod wedi cael eu penderfynu yn flaenorol, rhai o honynt gan oesau blaenorol; ac un o'r peryglon sydd yn gysylltiedig â chyffroadau felly yw anghofio hawliau neillduol gwahanol ddosbarthiadau cymdeithas. Y mae unrhyw hawlfraint a esgeuluswyd am amser maith, neu a gadwyd oddiwrth ddynion drwy fodd- ion gorfodol anghyfiawn, yn debyg, pan y daw i'r golwg, o demtio meddyliau eithafol a difarn i ddefnyddio moddion annheg i'w chyrhaedd; ac er nad yw amcan yn cyfiawnhau y moddion bob amser, eto, mae bendithion yr amcan wedi peri i ddynion i anghofio anghyfreithlondeb y moddion yn fynych. Nis gall dim arwyddo yn waeth i deyrnas na bod ei deiliaid yn farw i hanfodion llywodraeth gyfiawn, ac yn oddefol o dan bob math o gyfreithiau, y rhai oeddynt, o bosibl, yn cyfateb i anghenion yr oes yn yr hon y ffurfiwyd nwy, ac felly y cyfaddasaf i'r wlad o dany cyfryw amgylchiadau. Gwyddom am ddeddfau yr edrychir arnynt heddyw gyda dirmyg, ond pan y ffurfiwyd hwy, edrychid arnynt fel diwygiadau, yn gorffoliad oysbryd chwyldrqawl y rhai a'uígwnaethant, ac yn cyfarfod â dyheuadau dyfnaf y rhai a feddent y syniadau eangaf ara wirionedd yn ei wahanol agweddau, ac am neillduolion hawliau dosbarthiadau gwahanol cymdeithas. Ni thybiai y rhai a'u ffurf- iasant, yr edrychid ar y cyfryw fesurau fel deddfau anghyfiawn gan yr oes nesaf; ni feddyliasant y buasid yn eu galw hwy yn ddynion cyfyng eu syn- iadau a bychan eu cydymdeimlad. Yn wir, yr oedd y dynion hyny yn gymwynaswyr eu hoes, a dichon mai rhyfeddu ddylid eu bod wedi cyrhaedd mor bell yn mlaen yn eu hymdrech i gyfarfod â gofynion eu cenedlaeth. Gwaith anhawdd yw rhoddi ysgydwad i feddwl gwlad, codi cymdeithas fel y cyfryw.ar ei thraed i fod yn fyw i'w hawliau. Ond wedi y cynhyrfer y cyfryw, y mae yn llawn mor anhawdd, os nad yn fwy felly, i gadw cymdeith- as yn ei lle rhag hawlio mwy nag a ddylai; ac y mae llawer wedi llwyddo i godi ysbrydion, ond wedi methufa'u darostwng. Y mae myned i eithafion yn peryglu colli y daioni mwyaf o herwydd arfer moddion anghyfreithlawn i'w sicrhau. Dylai arweinwyr cymdeithas fod yu ofalus rhag gorweithio ysbryd cynhyrfus chwyldroawl yr oes. Onid oes genym hanes am rai o'r mudiadau gwerthfawrocaf wedi methu o herwydd ysbryd eithafol cefnogwyr y cyfryw? Oni chollwyd cydymdeimlad dynion da â rhai o'r symudiadau pwysicaf a gychwynwyd yn y ganrif hon o herwydd annoethineb arweinwyr 2l