Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DYSGEDYDD. Hen G\f.—866. EBRILL, 1894. Cyf. Newydd—266. LLE ORIST MEWN DUWINYDDIAETH DDIWEDDAR. YSGRIF II. GAN Y PARCH. JAMES CHARLES, DINBYCH. Y DIWYGIAD PEOTESTANArDD. ^T^N ein hysgrif gyntaf rhoddasoin f raslun o gynllun Dr. Fairbairn yn ei lyfr ar "Grisb mewn duwinyddiaefch ddiweddar." Crisfc yw yr organydd, ac y mae iddo ddau amgylchoedd (enyironments), sef yr Eglwys a'r byd, a'r naill yn effeifchio ar y llall. Sylwa yr awdwr fod Iuddewiaefch, Paganiaefch, Athroniaeth Groeg, a Llywodraeth Rhufain, wedi cario dylanwad ar yr Egíwys foreuol, ac wedi effeibhio ar ei ffurf-lywodr- aetb, ei chredöau, a'i hathrawiaeth.au. Y casgliad y deuir iddoyw, nad oes dim wedi cymeryd lle yn hanes yr Üglwys o ddygwyddiad yn unig; ond fel y mae i bob effaith ei achos, felly hef yd, yn hanes yr athrawiaefch. Dilyna yr awdwr y gwaith yn mlaen o oes i oes, gan roddi desgrifìad o'r prif gymeriadau, ac o'r prif ddygwyddiadau. Ond rhaid i ni fyned heibio i lawer o honynt, megys Erasmus ac eraill, ac aros ychydig gyda rhai o'r personau mwyaf amlwg. LüTHEIl. Un o'r cymeriadau amlycaf yn hanes yr Eglwys yw Luther. Cyn iddo ef gyfodi, yr oedd yr Eglwys Babaidd wedi teyrnasu am fil o ílynyddoedd. Dywed ein hawdwr fod Luther, fel Diwygwyr yn gyffrediu, yn cashau cyfnewidiad (change), ond ei fod megys yn cael ei orfodi, a phan yj darfu iddo gyfnewid, detfrodd Ewrop. Un o gyfeiliornadau yr Eglwys Babaidd oedd, dysgu fod dynion yn cael eu cadw trwy weithredoedd da, a gwerthid maddeuantau i bwy bynag a dalai am danynt. Offeryn penaf yr eglwys i gario allan yr egwyddor lygredig hon oedd Tetsel, enw yr hwn sydd yn waradwydd i'r Eglwys Babaidd, ac yn rheg yn mhlith y cenedloedd. Wedi i Luther gael golwg ar ei gyflwr fel adyn col'edig, ni allasai gweithredoedd adefodau yr Èglwys weini cysur iddo, a thawelu ei gydwybod euog. Ond wedi d'od o hyd i Feibl mewn cidwyn mewn mynachdy, trwy ddarllen y llythyr at y Rhufeiniaid, gwelodd mai fcrwy ffydd y cyfiawnheir dyn ger- bron Duw, ac nid fcrwy weifchredoedd. Cyfìawnhad fcrwy ffydd, o ras Duw yn unig yn Nghrisfc, heb haeddiant gweithredoedd, oedd y gwirionedd y pwysodd ei enaid arno am fywyd, a dros hwn y dadleuodd nes peri i'r Babaefch grynu byd afc ei sylfaeni. íefch yn o.l afc Paul, heibio i'r offeiriaid, a phwysai ar awdurdod gair üuw, ac nid ar awdurdod eglwys lygredig Fel y dad- leuai Paul dros gyfiawnhad trwy ffydd, heb weithredoedd y ddeddf Iuddewig, felly y dadleuai Luther dros gadwedigaeth drwy ffydd, o ras, yn erbyn gweithredoedd yr Eglwys Babaidd. Diwygiad crefyddol grëodd Lufcher.