Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DYSGEDYDD. Hen Gyf.—874. IONAWR, 1895. Cyf. Newydd—27*. GWEINIDOG YR UGEINFED GANRIF. G A N Y PARCH. L. PROBJEET, D.D., P E N T R E . (Gyûeithiad o Anerchiad i Fyfyrivyr Aberhonddu, Meheän, 1893.) Fy Anwyl Gyfeillion Ieuainc,— ^AN osododd y Pwyllgor arnaf yr anrhydedd o ofyn i mi am eich anerch ar yr achlysur hwn, yr oedd genyf gymaint o waifch ar fy llaw, fel y petrusais am beth amser cyn addaw cydsynio â'u cais. Nid cynt y symudais yr anhawsder hyny, nag yr oeddwn wyneb yn wyneb ag un arall, ac un pwysicach, sef yr anhawsder o allu dewis testun cyfaddas i'm anerchiad. Ar y naill law, meddyliwn mai afreidiol oedd i mi gymeryd i fyny ryw bwnc duwinyddol yn sylfaen anerchiad i fyfyrwyr a fwynhanfc addysg athrawon galluog; ac ar y llaw arall, nis gallaswn gasglu digon o wroldeb i feddwl am siarad wrbhych ar bregebhu, gan y gwyddwn fod y mafcer wedi ei drin yn ei wahanol arweddau gan wŷr hyawdl yn nghyfar- fodydd blynyddol y sefydliad hwn. Felly, gan fy mod yn fceimlo fod defnydd a duìl pregefchau yn brenau gwaharddedig i mi, bu'm yn hir mewn penblefch, ond o'r diwedd, penderfynais gymeryd llwybr canol rhyngddynfc, a darparu ychydig awgrymiadau yn nghylch y weinidogaeth yn y dyfodol. Er nad wyf yn brophwyd, na mab i. brophwyd, yn gymaint ag fod hanes- iaeth yn ddadblygiad, y mae yn bosibl rhagweled rhai o ffrwyfchau dyfodol y galluoedd moesol sydd ar waith o'n cylch yn bresenol. Dichon fod rhai o honoch yn cofio i mi gael achlysur yr haf diweddaf i gyfarch cynulliad pwysig ar "Eglwys y Ganrif nesaf," pan y sylwais yn benaf ar ei hoohr oleu; ond gan y bydd iddi, yn ddiau ei hoohr dywyll, cyfeiriaf yn bresenol at rai o'r anhawsderau a fyddant genych chwi i'w gorchfygu, na chyfarfyddodd ein tadau, nac o bosibl lawer o honom ninau. A chwi a gedwch mewn cof y bydd fy nodiadau ar weinidog y dyfodol yn dal perthynas yn benaf â Chymru. Yn awr chwi a addefwch, yn y lle cyntaf, y bydd yn ofynol i weinidog y dyfodol i brofl ei hun yn DDYSGAWDWR EFFEITHIOL. Eglur yw y bydd amodau llwyddiant gweinidogaethol y fath yn y dyfodol ag ialw am efrydwyr yn y weinidogaeth. Nid wyf yn credu y dylai gweinidog dreulio ei holl amser a'i dalentau i gyfranu gwybodaeth i'w bobl, ac i ddeongli dyrus bynciau meddyliol, oblegid nid darpariaeth ar gyfer y deall dynol yn unig ydyw yr efengyl, ac nid yw y gorchwyl genym o ddarganfod cyfundrefn o wirioneddau. Y mae gwirioneddau achubol i ymwneud hefyd â natur ysbrydcl dyn, ac y maent eisioes wedi eu rhoddi i ni oddiuchod yn yr Ysgrythyrau. Nid fBachiadau o ddyfnderoedd yr enaid d) nol ydyw y