Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DYSGEDYDD. Hen Gyf.—889. EBRILL, 1896. Cyf. Newydd.—289. YR HYAWDLEDD ARUCHELAF. GAN Y PARCH. î). STANLEY DAYIES, LLANBRYNMAIR. <k A'r swyddogion a atebasant, Ni lefarodd dyn erioed fel y dyn hwn."—Ioan vii. 46. MAtó ymadrodd y testun yn un grytnus iawn. Ai yn ffugyrol neu yn llythyrenol y mae i'w ddeall? Y mae y Beibl yn llawn o ffugyrau, amrywiol fathau o honynt yn cael eu defnyddio. Ceir y ffugyr o ormodiaith ynddo yn aral, sef gwrthddrychau yn cael eu desgrifìo yn fwy neu yn llai nag ydynfc mewn gwirionedd, er dangos fod y gwrfchddrychau hyny yn aruthrol fawrion, neu yn ddirmygus o fychain. Y mae addewid Duw i Abraham mewn perthynas â'i lwyddiant a lluosogiad ei hiliogaeth, yn enghraifft nodedig o'r ffugyr o ormodiaith, "Gwnaf hefyd dy had fel llwch y ddaear, megys, os dichon gwr rifo llwch y ddaear, yna rhifir dy had dithau." Pe deallem yr addewid uchod yn llythyrenol, rhwymid ni i gredu na fuasai yr un genedl yn poblogi y ddaear ond yr eiddo Abraham; a chredu hyny fyddai yn ynfydrwydd, canys gwyddom fod ar y ddaear genedloedd lluosog heblaw yr Iuddewon. üeallwn yr addewid jn ffugyrol, fel enghraifft o ormodiaith, yn dangos raewn iaith nerfchol y byddai hiliogaeth Abraham yn lluosog a llwyddianus anarferol. Eithr nid gwirionedd yn cael ei osod allan yn yr arddull o ormodiaifch ydyw gwirionedd y fcestun. Y mae iaifch y fcestun i'w ddeallyn llythyrenol; gwirionedd noeth naturiol ydyw, mor wir a bod dau a ddau yn bedwar, mor wir a bod fcân yn llosgi, mor wir a hyny ydyw geiriau y fcesbun pan ddywed- anfc, "Ni lefarodd dyn erioed fel y dyn hwn." Os oes diffyg o gwbl yn y geiriau, eu diffyg ydyw, nid eu bod yn dweyd gormod, ond eu bod yn rhy weiniaid. Y mae minfcai o ddynion grymus wedi bod, ac yn bod efco, yn llefaru yn nglustiau y byd, ond y blaenaf a'r mwyaf o honynt oll ydyw y Pregethwr o Nazareth. Bu Cicero ffraeth, Demosthenus hyawdl, a Paul athrylithgar, a miloedd eraill, yn llefaru wrth drigolion y byd, a llefarasant nes byddai dinasoedd poblog yn cael eu cynhyrfu, byddinoedd mawrion yn cael eu gwefreiddio, eu cynddeiriogi, cynulleidfaoedd lluosog yn wylo, a chydwyb- odau oedd wedi eu serio megys â haiarn poeth yn cael eu deffroi mewn braw a dychryn gan ddylanwad eu hyawdledd. Ond er hyn oll, y mae geiriau y testun yn sefyll yr un, "Ni lefarodd dyn erioed fel y dyn hwn." Deallwn ar unwaith, fod yr ymadrodd i'w gymeryd yn llythyrenol, ond i ni ystyried pwy a'i llefarodd. Nid yr un o ddysgyblion Crist. Pe cyfeillion i'r Iesu a ddygasai y dystiolaeth hon, ni fuasai haner mor effeithiol. Swydd- ogion yr Archoffeiriaid a'r Phariseaid, y rhai a anfonwyd o bwrpas i'w ddal