Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DYSGEDYDD, IIkn. Gyf.—908. TACHWEDD, 1897 Cyf. Newydd. 308. EPISTOLAU PAUL. GA\ Y PARCH. LEWIS JONES, TY'NYCOED. OLYGIR i gryn nifer o flynyddoedd fyned heibio ar ol troed- igaeth Paul cyn iddo ddechreu ysgrifenu ei Epistolau. Ni chawn iddo gorffoli un eglwys am rai blynyddoedd ar ol iddo ddechreu pregethu Crist. Aeth blynyddoedd heibio drachefn ar ol iddo sefydlu y rhan fwyaf o'r eglwysi a fFurfiwyd ganddo cyn iddo gorffoli y gwirioneddau a bregethai iddynt yn llythyrau ysbrydoledig i fod ar gof a chadw. Mae yn bosibl nad oedd ei farn yn ddigon aeddfed ar y cyntaf i roddi ffurf barhaol i'r hyn a bregethai ac a gredai. Dengys ei Epistolau fwy o aeddfedrwydd barn yn ol eu diweddarwch. Mae ei Epistolau cyntaf, megys y rhai at y Thessaloniaid, yn fwy amddifaid o bynciau athrawiaethol na'r rhai a geir yn nes yn mlaen, megys y rhai at y Rhufeiniaid a'r Ephesiaid. Golygir yn gyffredin iddo fod yn pregethu am tuag ugain mlynedd cyn troi allan fel awdwr. Nid ymddengys iddo fod yn ysgrifenu llythyrau gydag unrhyw gysondeb na threfn neillduol ar ol iddo ddechreu. Ysgrifenodd y ddau lythyr at y Thessaloniaid hyd y gwelir 0 fewn yr un flwyddyn. Yn mhen tua phedair blynedd ar ol hyny yr ysgrifenodd lythyr at y Galatiaid. Yn ol pob tebyg yn mhen blwyddyn ar ol hyny yr ysgrif- enodd y llythyr cyntaf at y Corinthiaid, a'r ail lythyr atynt yn mhen blwyddyn drachefn, a'r llythyr at y Rhufeiniaid bron yr un adeg. Golygir iddo ysgrifenu ei lythyrau at yr Ephesiaid, a'r Colossiaid, a'r Philippiaid, ac at Philemon yn mhen tua phedair blynedd ar ol hyny. Tybir mai yn mhen blwyddyn ar ol hyny yr ysgrifenodd ei lythyr cyntaf at Timotheus, a'i lythyr at Titus. Ac yna iddo ysgrifenu ei ail lythyr at Timotheus, sef y diweddaf o'i holl lythyrau yn mhen blwydd- yn ar ol hyny. Anhawdd feallai cyfrif am y bylchau yma ar oì iddo ddechreu ysgrifenu fel y tybir yn y flwyddyn 54, hyd nes iddo ddibenu yn y flwyddyn 66. Tybia rhai mai ysgrifenu fel y byddai amgylchiadau yn galw y byddai; eraill a dybiant mai ysgrifenu fel y caffai hamdden y byddai, tra y tybia eraill mai ysgrifenu pan o dan ryw gynhyrfiadau neillduol gan yr Ysbryd Glan y byddai. Mae yn amlwg fod rhyw neges neillduol i bob Epistol, a gellid meddwl felly mai ysgrifenu yn 01 yr amgylchiadau y byddai, megys i droi rhyw gyfeiliornad yn ol fel gyda y Rhufeiniaid, neu mewn achos o ddysgyblaeth fel gyda y Corinthiaid, neu i amddiflyn brawd gwan fel yn achos Onesimus at Philemon. Mae yr un mor wir a hyn fod yma rai llythyrau megys yr un at y 2 N