Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DYSGEDYDD, Hen. Gyf.—910. ìcîÍAWRri898r" CY^TfwyDST^ÎÒT^ Y DIWEDDAR BARCHEDIG DAVID MORGAN, LLANFYLLIN. GAN Y PARCH. JOSIAH JONES, MACHYNLLETH. N cyd-fyned â'r ysgrif hon, yr ydym yn disgwyly bydd darlun o'r gŵr anrhydeddus ac enwog sydd yn destyn iddi. Ac os bydd y darlun yn deilwng fel yr hyderwn, bydd yn amlwg i'r darllenydd ar unwaith fod Mr. Morgan yn ddyn hardd a golygus iawn o ran ei ymddangosiad, yn gydnerth a chadarn ei wneuthuriad, ac o faintioli mwy na'r cyffredin. Y mae tarawiad ei wyneb a bywiögrwydd os nad llymder ei lygad yn profi, hefyd, ei fod yn meddu ar feddwl cryf yn gystal â chorff iach. Y tro cyntaf y cefais yr hyfrydwch o weled Mr. Morgan ydoedd yn nghapel henafoí Trewen, oddeutu y flwyddyn 1848, lle y pregethodd i dyrfa luosog, yn egniol a thanllyd, oddiar Psalm xci. 1. Nid oeddwn i ond llanc y pryd hwnw, wedi newydd ddechreu pregethu; ac er fy nychryn, gofynwyd i mi ddechreu yr oedfa i'r gŵr mawr ac enwog, yn ol syniad y gymydogaeth hono am dano. Ychydig feddyliwn, y pryd hwnw, y byddwn yn mhen oddeutu chwe' mlynedd o barotöad, yn cael fy neillduo i fod yn olynydd iddo fel gweinidog yn Machynlleth; ie, a llai fyth, y byddwn, yn mhen agos i haner can' mlynedd, yn derbyn cais i ysgrifenu Bywgraffiad iddo yn y Dysgedydd. Gresyn na fuasai y deyrnged hon wedi ei thalu i'w gymeriad teilwng a'i wasanaeth pwysig i Dduw ac i ddynion yn gynt o lawer. "Ond gwell hwyr na hwyrach," medd yr hen air; ac yn ffodus y mae yn dygwydd fod genyf fantais neillduol i wneyd hyn, yn gymaint â bod yr hyn a ysgrifenodd Mr. Morgan, yn ei ddyddiau diweddaf, am dano ei hun a'i helyntion, wedi syrthio i'm llaw er ys tro. "Ychydig o hanes Cofiantol" ydyw teitl yr ysgrif, ac y mae yn cynwys oddeutu 75 o dudalenau, wedi eu hysgritenu yn fân ac yn fanwl. Yr ysgrif hon fydd y brif ffynonell o'r hon y cymerafy ffeithiau, erfymod yn bwriadu cadw fy rhyddid i fod yn annibynol, os rhaid, hyd yn nod arni hi. Pe cyhoeddasid ysgrif Mr. Morgan yn llawn tan olygiaeth ofalus, credwn y buasai yn gaffaeliad h-mesyddol gwerthfawr ar lawer cyfrif. Yn niwedd yr ysgrif y mae Mr. Morgan yn ein hysbysu fod y tudalenau blaenorol wedi eu hysgrifenu ganddo yn benaf er mwyn ei deulu ei hun, a'i bod i'w hymddiried i law ei fab, y Parch. James H. Morgan, Leeds, y pryd hwnw, os byddai hwnw býw ar ei ol ef; ac os barnai efe yn ddoeth i'w cyhoeddi, ei fod i wneyd hyny, ond iddo alw rhyw frawd a fyddai yn Gymreigydd da i chwanegu atynt neu dynu çddiwrthynt yr hyn a welent yn addas.