Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DYSGEDYDD. Hen Gyf.—920. TACHWEDD, 1898. Cyf. Newydd-320. PWY YW MAB Y DYN? GAN Y PARCH. D. M. JENRINS, LIVERPOOL. "Fod gan Fab y Dyn awdurdod i faddeu pechodau ar y ddaear." - Marc ii. 10. 'RTH honi yr awdurdod hon i faddeu pechodau y mae Iesu Grist am y waith gyntaf yn galw ei hunan yn Fab y Dyn; ac y mae perthynas hanfodol rhwng ystyr yr enw a dilys- rwydd yr hawl. Yr ydym yn cyfarfod â'r enw rhyw bymtheg ar hugain o weithiau o fewn cwmpas y Pedair Efengyl, ond ar bob am- gylchiad fe'i cymhwysir gan ein Gwaredwr ato ei hun; ac felly, y mae ystyr yr enw yn codi oddiwrth yr olwg a gymerai efe arno ei hunan a'i genadwri. Mae rhai wedi tybio mai amcan yr enw ydyw nodi terfynolrwydd dynol bywyd Iesu—cyffesu nad oedd Ef ddim ond dyn cyffredin yn gyfranog fel pawb eraill yn mrawdoliaeth dyn. Ond buasai yn ein taro ni heddyw yn rhyfedd i ganfod unrhyw ddyn mewn trafferth barhaus i geisio argyhoeddi dynion eraill nad yw efe ddim ond dyn fel hwythau. Ac y mae'r ffaith fod Iesu o hyd yn gosod y fath bwyslais ar ei gyfranogiad o natur dyn yn awgrymu yn anocheladwy y tybiai efe fod rhywbeth allan o'r cyffredin yn y ffaith hono, a dweyd y lleiaf. Ac fe ddefnyddir yr enw Mab y Dyn ganddo mewn cysylltiadau mor anysgwyliadwy, a chysylltiadau sy'n deffroi disgwyliadau mor eang, megis, " Ac a roddes awdurdod iddo i wneuthur barn hefyd, oherwydd ei fod yn Fab y Dyn." " Canys Mab y Dyn a ddaeth i geisio ac i gadw yr hyn a gollasid;" a geiriau y testun " Fod gan Fab y Dyn awdurdod i faddeu pechodau ar y ddaear." Mae geiriau o'r nodwedd yna yn peri i ni dybio mai nid nodi dynolrwydd person y Gwaredwr fel ffaith ydyw ystyr yr enw, yn gymaint a gosod allan neillduolrwydd y berthynas sydd rhwng ei fywyd ef yn y cnawd a bywyd a thynged yr hil. Beth gan hyny ydyw ystyr yr enw? " Pwy yw hwnw, Mab y Dyn? " I. I gymerydy tir iselaf ì ddechreu, Maby dyn mewn gwrthgyferbyn- iadifaby boneddwr, neufaby dyn tlawd. Dyn ar wahan ì amgylch- iadau damweiniol ei sefyllfa allanol mewn cymdeit/ias. Mae cym- deithas yn ein byd ni wedi ymranu yn wahanol ddosbarthiadau, ae nid hir y gellir byw yn ymyl neb yma, na bydd sawyr y dosbarth y perthyna iddo yn llenwi yr holl awyrgylch fydd yn cael ei hanadlu; ond y mae pob dosbarth yn nghwmni'r Iesu yn teimlo mai anadlu ei awyr gynhenid ei hun y mae, am mai fel dyn y llefara Efe ac nid fel blaenor plaid. % B