Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DYSGEüYDl). YR OES A'R EGLWYS. GAN Y PRIFATHRAW Y PARCH. L. PROBERT, D.D., BANGOR. IjYSYLLTWN yr eglwys a'r oes a'u gilydd, oblegid y berthynas gydgyfranogol a fodola rhyngddynt. Bwriad- wyd i'r eglwys i effeithio o hyd ar yr oes, er ei dwyn o dan ddylanwad yr efengyl; ond nis gall gyflawni ei swyddogaeth, heb i'r oes i adael rhyw gymaint o'i hargraph arni hithau, fel y gwelir olion eu hamgylchion ar Noah, pregethwr cyfiawnder, a Lot gyfiawn. Weithiau, delw yr eglwys ar yr oes a fydd amlycaf; a phrydiau eraill, delw yr oes ar yr eglwys a fydd fwyaf yn y golwg. Dibyna uwchafiaeth ac isafiaeth y ddwy ddelw ar nerth y bywyd ysprydol a fydd yn yr eglwys ar y pryd. Bychan mewn cymariaeth oedd nerth y bywyd ysbrydol yn yr hen eglwys Iuddewig; a syrthiodd hithau yn amlach i eilunaddoliaeth y cenedloedd, nag yr ymgrymodd cenedloedd i addoli Duw Israel. Fe ddaeth nerth newydd a grymus i fewn i'r eglwys apostolaidd; ac nid hir y bu hono cyn ysgwyd paganiaeth i'w seiliau. Gwnaed mwy o waith cenhadol gan Paul ei hun, mewn rhyw ddeng mlynedd-ar-ugain o amser, nag a wnaeth yr eglwys Iuddewig oll mewn pymtheg canrif. Er y llewyrchai goleuni y Schoolmen yn y canoloesau, ychydig o fywyd ysbrydol oedd yn yreglwys, abychan oedd ei gwasanaeth i grefydd a rhinwedd, fel y gelwir y cyfnod yn "oesau tywyllion," tra y parodd y bywyd a'i meddianodd yn adeg y Diwygiad Protestanaidd iddi ledu ei changau ffrwythlawn trwy y gwledydd. Wrth edrych fel yna ar hanes yr eglwys yn y gorphenol, gellir dweyd am dani, fel am ei Phen, "a'r bywyd oedd oleuni dynion." Mae yr holl oesau mewn angen am ryw wasanaeth oddiwrth yr eglwys, fel y mae eisieu yr haul bob dydd, megys angen am eu dwyn o dan ddylanwad achubol yr efengyl; ond gan y gwahan- iaetha yr oesau oddiwrth eu gilydd, dylai gwasanaeth yr eglwys amrywio hefyd, fel y mae gwahanol dymhorau i'r flwyddyn. Felly, y mae ei gwasanaeth i fod yn un cyffredinol, a neillduol; a daw ei ddwy nodwedd i'r golwg yn nghyfansoddiad epistolau y Testament Newydd. Wrth egluro trefn gras yn ei epistol at y Rhufeiniaid, fe roddodd Paul lyfr gwerthfawr i holl oesau y ddaear; ac yr oedd ar yr un pryd yn calenogi y credinwyr yn y brif-ddinas, i lynu wrth