Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DYSGEDYDü. PERSONOLIAETH DDYNOL A'R YM- GNAWDOLIAD. Ysgnf II. GAN Y PARCM. D. ADAMS, B.A., LIVERPOOL. AE dynoldeb Duio (human-ness o/ God) yn cael ei rag- dybied gan gred yn ei ymgnatodoliad neu ei ymddynoliad yn Iesu o Nazareth, Y mae ysgar Duw a'r cread a dal fod y natur Ddwyfol a'r natur ddynol yn hanfodol wahanol yn gwneud cred yn " ymddangosiad Duw yn y cnawd " yn anhawdd os nid anmhosibl. I rai o'r Iuddewon goreu a mwyaf defosiynol yr oedd yr urddas a'r gogoniant uwchddynol â pha rai y gwisgent eu syniad am Dduw yn rhwystr anorfod ar eu ffordd i gydnabod Dwyfoldeb y proffwyd o Nazareth. Y mae anhawsder cyffelyb yn g-wynebu meddylwyr moes- egol, fel y diweddar Martineau. " Rhaid " medd ef, "i seiliau medd- yleg a moeseg gywir gael eu gosod ar athrawiaeth Deuoliaeth [Dualism)" Os delir fod y gwahaniaeth rhwng natur foesol Duw â natur foesol dyn yn hanfodol ac absolute, fel y dywedir, yna y mae yn anmhosibl dal fod holl gyflawnder moesol y Duwdod yn preswylio yn gorfforol yn y dyn Crist Iesu. Neu ynte, os daliant fod Iesu yn Dduw wedi ymgnawdoli, rhaid iddynt, fel y Docetiaid gynt, wadu ei wir a'i briodol ddyndod, a haeru mai rhith a ffug yn unig ydoedd. Wrth gwrs, pan yn son am ymddynoliad Duw, nid ydys yn golygu fod ei briodoleddau naturiol, megys Hollalluogrwydd, Hollwybodaeth, a Hollbresenoldeb, yn preswylio yn ymwybyddol yn Iesu pan oeddyn faban ar liniau Mair. Nid oes angen myntumio hyn er gallu dal ein cred yn ngwirioneddolrwydd yr ymgnawdoliad yn Iesu. Y mae y cread ei hun yn rhagdybied math o hunangyfyngiad ar ran Duw. Er yn credu fod Duw yn breswyliedig (immanent) yn y cread, rhaid i ni hefyd ddal nad yw y cread materol yn gfallu gwneud cwbl chwareu teg â bywyd amlochrog Duw. Mae ynddo Ef " ogoniant mwy ofn- adwy" nag y gall y cread roddi amlygiad iddo. Mae y cread yn golygu math o hunanymwadiad ar ran Duw. Yn gyfFelyb y mae cred yn yr Ymgnawdoliad yn hollol gyson â'r gred nad oedd Iesu fel baban yn Hollwybodol, neu fel dyn yn Hollbresenol. Ymddengys i mi fod unrhyw gred yn ymgnawdoliad, neu ymddynoliad Duw yn ein rhwymo i dderbyn syniad yr Apostol Paul, ei fod yn golygu fod Duw