Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DYSGEDYDD Hen Gyp.—935. MEDI, 19Ü0. Cyf. Newydd.—342. GWIR ARGYHOEDDIAD. GAN Y PARCH. OWEN EVANS, D.D.. LLUNDAIN. "Hwythau wedi clywed hyn, a ddwys-bigwyd yn eu calon, ac a ddywedasant wrth Pedr, a'r apostolion e*aill, Ha wŷr frodyr, beth a wnawn ni?"—Act. ii. 37. j>AE y geiriau hyn yn gosod allan, mewn modd tarawiadol, effeithiau nerthol y bregeth gyntaf ar ol tywalltiad yr Ysbryd ar ddydd y Pentecost. Yr oedd y dysgyblion wedi derbyn yr Ysbryd i ryw raddau yn flaenorol, pe amgen nis gallas- ent fod yn ddynion duwiol; oblegyd " od oes neb heb Ysbryd Crist ganddo, nid yw hwnw yn eiddo ef," Rhuf. viii. g. Ond yn awr y cafodd y dysgyblion eu llcnwi â'r Ysbryd Glan. Fe ddywedir iddo gael ei dywallt arnynt yn bresenol; ac y mae hyny yn gosod allan hel- aethrwydd a rhadlonrwydd y rhoddiad o hono. Mae y fferyllydd yn cymeryd costrel oddiar y silff yn y siop, ac yn gollwng yn ofalus ychydig o'i chynwys bob yn ddyferyn i'r botel, ac y mae yn rhaid talu am y mân ddyferynau hyny. Önd y mae y cymylau yn tywallt eu cynwysiad yn gawodydd trymion, maethlon, a bendithiol, i ddyfrhau a ffrwythloni y ddaear, a hyny yn rhad ac am ddim. Ac yn gyffelyb i hyny y rhoddwyd yr Ysbryd yn awr, yn unol â'r proffwydoliaethau a'r addewidion grasol am dano: " Tywalltaf ddyfroedd ar y sychedig, a ffrydiau ar y sychdir: tywalltaf fy Ysbryd ar dy had, a'm bendith ar dy hiliogaeth." "A bydd ar ol hyny y tywalltaf fy Ysbryd ar bob cnawd," &c, Esaiah xliv. 3; Joel ii. 28, 29. Yr oedd yma ryw arwyddion allanol, tra awgrymiadol, yn cyd-fyned â thywalltiad yr Ysbryd ar y Pentecost; "Ac yn ddisymwth y daeth swn o'r nef, megys gwynt nerthol yn rhuthro," &c, Act. ii. 2. Nid peth cyffelyb i hyrdd-wynt nerthol yn chwythu dros y ddinas a'r wlad yn agos i'r ddaear, ac yn taro yn erbyn muriau ac ochrau y tai; cnd swn fel pe buasai corwynt cryf yn disgyn i lawr yn syth o'r nefv trwy yr awyr las. Yr oedd hyn yn arwyddo fod y dylanwad oedd i gyd- fyned â gweinidog'aeth yr apostolion yn nefol a dwyfol o ran ei dardd- iad, ac yn nerthol ac anwrthwynebol o ran ei effeithiau. Ond yr oedd yma arwyddion nid yn unig i'r glust, ond hefyd i'r llygad; oblegyd yr oedd yma rywbeth i'w weled yn gystal a'i glywed; canys fe "ymddajig- osodd iddynt dafodau gwahanedig megis o dân," adn. 3. Yr oedd tân yn arwyddlun priodol o ddylanwadau yr Ysbryd am ei fod yn gwresogi ac yn puro. Pan ddisgynodd yr Ysbryd ar y Gwaredwr, yn adeg ei íedyddiad fe ddisgynodd arno Ef nid fel tân, gan nad oçdd d'tm l P