Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DYSGEDYDD. B E T H Y W RÍÍINWEDD? GAN Y PARCH. D. GRIFFITH, BETHEL. EL y bu Pilat a llawer eraill, mewn hen amseroedd yn dyfal ymholi "Beth yw gwirionedd;" felly hefyd, y bu llaweroedd mewn amseroedd diweddar, yn synfyfyrio ac yn dadleu a'u gilydd yn nghylch y cwestiwn, (<Bethyw Rhinwedd?" Hyd y gwelsom, gan Syr James Mackintosh yn yr Encyclopoedia Brittanica y caed y traethiad llawnaf ac egluraf o barthed y dadleuwyr hyn â'u dadleuon; a chan ein bod yn ddyledus iddo am lawer o'r ffeithiau cynwysedig yn yr ysgrif hon, gweddus yw i ni gydnabod hyny yn union yn awr ar y dechreu. Am y gair rhinwedd, amlwg yw, ei fod yn deilliaw o rhin a gwedd,— hyny yw,—rhin dda. Yn yr ysgrythyr, fe'i defnyddir mewn gwa- hanol foddau. Mewn un man, fe arwydda allu y Gwaredwr i iachau, sef lle y dywedir, "fyned rhinwedd allan o hono." Mewn manau eraill fe'i defnyddir i ddynodi gwroldeb, megys lle dywedir, "Chwanegwch at eich ffydd rinwedd," hyny yw, gwroldeb i arddel ac amddiffyn y ífydd. Mewn manau eraill, gwelir fod y gair yn cael ei arfer i ddy- nodi ymarweddiad dayn gyffredinol, megys yn Phil. iv. 8, lle y ceir yr Apostol ar ol cyfeirio at amryw o brif ragoriaethau y fuchedd Gristion- ogol, yn ychwanegu, "od oes un rhinwedd, ac od oes dim clod, medd- yliwch am y pethau hyn." I rai, gall y cwestiwn, "Beth yw rhinwedd," ymddangos yn un y gellir ei ateb yn lled rwydd. Ond dylidcofio, fod llawer o bethau a ym- ddangosant ar yr olwggyntaf, yn hawdd eu hamgyffred, yn ymddangos yn bur wahanol pan yr eir i edrych i mewn i'w hanfod. Oblegid, yna daw anhawsderau i'r golwg, a eÌMẂ'jd cwestiynau y gellir eu hateb mewn gwahanol ffyrdd. Nid oes dirn yn fwy amlwgna bod gwahanol syniadau yn ffynu yn mhlith cenedloedd y ddaear o berthynas i'r hyn a gyfansodda rinwedd; a bod ysgrifenwyr galluog o bryd i bryd, wedi bod yn euog o ddefnyddio eu hamser a'u galluoedd i ledaenu golyg- iadau gwyrdraws a gwrthnysig hollol yn nghylch ansawdd a seiliau rhinwedd. Yn ganlynol, teimlid fod yn rhaid eu hateb, er gwrthladd dylanwad drwg eu hymdrechion. Felly, y gwelid yn Mhrydain, ddarfod i ysgrifeniadau Hobbes, yr anffyddiwr, ac eraill o'r un frawd- oliaeth, beri cyffro mawr, fel y penderfynodd amryw awduron enwog dd'od allan yn eu herbyn; a chan nad oeddynt oll yn gallu gweled lygad yn llygad ar bob dyrysbwnc a ystyrid fel yn dal cysylltiad â'r '..... ir