Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DYSGEDYDD. Hbn Gyf,—937. TACHWEDD, 1900. Cyf. Newydd.—344. Y LLWYNOGOD BYCHAIN. GAN Y PARCH. O. EVANS, D.D. "Deliwch i ni y llwynogod, y llwynogod bychain, y rhai a ddifwynant y gwin- llanoedd, canys y mae i'n gwinllanoedd egin grawnwin."—Can. ii. 15. |AE eglwys Dduw yn cael ei chyffelybu yn fynych yn yr Ysgrythyrau Sanctaidd i winllan. "Gwinllan sydd i'm Hanwylyd mewn bryn tra ffrwythlawn," &c. "Y dydd hwnw cenwch iddi, g winllan y gwin coch, myfi yr Arglwydd a'i ceidw, ar bob moment y dyfrhaf hi," &c. Mae gwinllan yn lle y cymerir Uawer iawn o drafferth gyda hi, oblegid y mae gwinwydd yn bethau sydd yn gofyn llafur a gofal mawr. Wedi i'r amaethwr hau yr hâd, y mae yn gallu myned adref o'r maes gan ei adael am wyth- nosau i ofal rhagluniaeth, "ac y mae yn cysgu ac yn codi nos a dydd, a'r hâd yn egino ac yn tyfu y modd nis gwyr efe; canys y ddaear a ddug ffrwyth, o honi ei hun," &c, Marc iv. 26 — 29. Ond am ygwin- llanydd, rhaid iddo ef fod wrthi yn ddiwyd bob dydd, yn trin, yn tocio, yn gwrteithio yn dyfrhâu, ac yn achlesu y gwinwydd. Ac yn gy- ffelyb am danom ninau sydd yn aelodau o eglwys Dduw, —yr ydym yn sefyll mewn angen beunyddiol am ymgeledd parhâus a gwastadol Yspryd Duw. Wedi i'r gwinllanydd gymeryd cymaint o drafferth fel hyn gyda'r winllan, y mae yn naturiol ac yn rhesymol iddo ddysgwyl iddi ddwyn ffrwyth yn ad-daliad iddo am ei lafur. A'r un modd, wedi i'r Arglwydd, o'i drugaredd a'i ras, roddi i ninau y fath amledd a hel- aethrwydd o freintiau a tnanteision crefyddol, y mae yn dysgwyl i ni ddwyn ffrwythau yr Ysbryd: Esaiah v. 1 —7 Mae gwinlían yn lle hawdd iawn ei niweidio. Fe all anifail, os daw i mewn i'r winllan, wneud mwyo anrhaith a difrodyno mewn un noswaith, nagy gally gwinllan- ydd ei ddadwneud mewn misoedd lawer. A'r un modd, am yr eglwys, y mae yn hawdd iawn gwneud mawr niwed iddi hithau. "Un pechad- ur,"—un cyfeiliornwr, neu un terfysgwr anhywaith mewn eglwys,—"a ddinystria lawer o ddaioni." Fe tyddai Ilawero wahanol bethau yn ni- weidio y gwinllanoedd yn y Dwyrain. Weithiau byddai rhyw wynt gwenwynig yn mallu ac yn deifio yr egin grawnwin. Ac yn gyffelyb i hyny, y rrae rhyw gyfeiliornadau dinystriol ar brydiau yn ffyna ac yn ymdaenu, nes peri i grefydd efengylaidd wywo a marw. Bryd arall, fe íyddai y baedd o'r coed yn llwyddo i ddyfod i mewn i'r winllan i'w thirio, a rhwygo canghenau y gwinwydd nes ei throi yn anialwch. Ac yn gyffelyb i hyny, y mae rhyw erlidiwr creulawn, fel Saul o Tarsus, neu I L