Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

ŵiiájflìura. BYWYD YN YR ATHROFA. Anbbchiad a dbaddodwtd i'b Mtftbwtb tn Athbofa t Bala, Mawbth t 12, 1863, gan t Paboh. E. E. WILLIAMS. (Cyhoeddedig yn y Dtsgedtdd, y Diwygiwr, a'r Annibynwr, ar gais y Pwyllgor). Anwtl Fbodtb,—Pan gofiwyf nad oes ond ychydig amser, mewn cymhariaeth, er pan oeddwn i megys un o honoch chwithau —yn fachgen ieuanc yn y lle hwn, yn codi yn fore ac yn myned yn hwyr i gysgn, weithiau yn darllen ac weithiau yn chwareu, weithiau yn llunio addunedau a phryd arall yn eu tòri—pan gofiwyf fod y tymmor hwnw wedi myned heibio, a phan gofiwyf mor lleied o ddefnydd a wneuthum o hono, nis gallaf lai na theimlo gradd o wylder wrth gydsynio â chais y Pwyllgor i draddodi yr Anerchiad hwn I chwi yma heddyw. Buasai yn dyfod atoch, yn ddiammheu genyf, yn llawer mwy esmwyth oddiwrth rywun hýn a mwy profiadol. Ond, gan fy mod wedi ymgymeryd â'r gorchwyl, nid oes i mi yn awr ond ei gyflawni oreu y gallwyf. Y mae esgusodion bellach yn waeth na diles, ac am hyny, yr wyf yn taflu y baich sydd genyf o honynt o'r naill du. Yr wyf wedi fy ngadael yn hollol at fy rhyddid gan y Pwyllgor am destun yr An- erchiad, i ddwyn ger eich bron unrhyw beth a allai ymddangos i mi, ar y pryd, yn fwyaf cymhwysi'r amgylchiadau danbarai y cyfarfyddwn â'n giìydd. Y rheol ar achlysuron o'r fath, mewn Ileoedd eraill, ydyw dewis rhyw ran o'r ysgrythyr, a dilyn hwnw fel testun. Trwy hyn y mae yr Anerchiadau a draddodir i'n myfyrwyr yn ein Hathrofaau, yn bur gyffredin, yn ym- ddangos yn fwy tebyg i'r siara a draddodir i'r gweinidog ieuanc ar ddydd ei ordeiniad —yn bwysig iawn iddynt hwy erbyn y dyfodol, ond nid mor gymhwys, efallai, i'w sefyllfa ar y pryd. Rhaid i mi wyro ych- ydig oddiwrth y rheol yna y tro hwn; nid am fy mod yn gweled nn bai ar y rheol Mai, 1663. ynddi ei hun, ond am nas gwn i am nn ymadrodd a allai fod o fawr o wasanaeth i mi fel testun, yn y llwybr sydd genyf yn awr o'm blaen. Bydd rhywun arall çyn hir, ar ddiwrnod pwysig iawn i chwi, yn anerch pob un o honoch yn bersonol ar eich dy- ledswyddau fel gweinidogion yr efengyl. Goddefwch, gan hyny, i mi alw eich sylw at bethau sydd yn dwyn perthynas fwy uniongyrchol â chwi fel myfyrwyr. Bydd yr oll a ddywedaf yn seiliödig ar y tipyn profiad a gefais yn y lle hwn, neu ar y sylw a gymerais o bethau a phersonau ar ol ei adael. Pa gymhwysder bynag sydd genyf i wneud hyn, gallaf eich sicrhau fod genyf y cydymdeimlad Hwyraf â chwi, ac na fynwn, er dim, ddweyd un gair ond a dueddo at eich Hes. Yr wyf, hyd yn hyn, yn teimlo yn gymhwys fel pe bawn yn un o honoch. Y mae dwyn dynion ieuainc i fyny trwy gwrs o ddysgeidiaeth athrofaol, er eu cy- mhwyso i waith y weinidogaeth, fel y gwyddoch, yn hen arferiad yn yr eglwys Gristionogol; ac nid oes yma neb yn am- mheu nad yw yr arferiad hòno yn un dda. Yn wir, y mae rhagbarotoad o ryw fath yn cael ei ystyried fel ammod angenrheidiol i ragoriaeth yn mhob cylch o alwedigaeth yn y byd; os felly, y maeyn rhyfedd meddwl os rhaid i'r weinidogaeth efengylaidd fod yn eithriad. Hwyrach nad yw yr Athrofa, fel y cyfryw, mor angenrheidiol tuag at gyrhaedd yr amcan hwn yn awr ag y bu. Y mae yr argraffwasg yn ein dyddiau ni yn gwneud gwyrthiau. Y mae cyfryngau addysg wedi eu dwyn î gyrhaedd y dos- barthiadau iselaf mewn cymdeithas, a gall y dyn cyffredin yn awr, trwy ychydig lafùr, ddyfod i gydnabyddiaeth â chyfrinion ar ei