Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

ẃrijjàm. DYCHWELIAD YE ITJDDEWON, Addefir bron gan bawb, ac y mae y peth yn rhy eglur yn wyneb yr efengyl i allu ei wadu, mai goruchwyliaeth gysgodol oedd yr oruchwyliaeth Iuddewig—cyfammod gwasan- aethol dros amser i un mwy a gwell. Yr oedd neillduad yr Iuddewon fel cenedl yn un cysgodol—eu rliagoriaethau a'u breintiau yn gysgodol—eu defodau, eu gosodiadau, eu gwasanaeth, a'u gwlad, oeddynt gysgodau o ddaionus bethau i ddyfod. A oedd y Duw byw yn Dduw iddynt hwy fel cenedl yn ol y cyfammod? Onid yw felly i'r ffyddloniaid yn Nghrist Iesu yn ddiwahaniaeth, pa un bynag ai Iuddewon ai cenhedloedd fyddont? A oeddynt fel cenedl yn bobl briodol—yn genedl santaidd? felly mae yr eglwys Gristionogo], o ba genedl bynag y byddo. A oeddynt hwy yn ddeihaid o ordinhad arwyddocaol yr enwaediad? " Yr enwaediad ydym ni," medd Paul, "y rhai ydym yn gwasanaethu Duw yn yr ysbryd, ac yn gorfoleddu yn Nghrist Iesu, ac nid yn ymddiried yn y cnawd." A oedd ganddynt hwy eu hoffeiriaid, cu hallorau, a'u haberthau? Y mae y pethau hyn wedi eu sylweddoli i ni yn Nghrist. A oedd ganddynt hwy arwydd o bresenoldeb Duw yn eu teml? Y mae goleuni gwybodaeth gogoniant Duw yn wyneb Iesu Grist yn yr eglwys Gristionogol. A oedd gwlad Canaan yn etifeddiaeth iddynt hwy? Y mae yr orphwysfa sydd yn Nghrist i bob enaid crediniol, a'r nefoedd dragwyddol mewn byd arall, yn sylwedd cyflawn o Ganaan. Gwelwn fod rhyw dywyllwch a ífolineb yn nglŷn â'r sawl a gredant ddwyfoldeb Cristionogaeth, ac ar yr un pryd a goleddant y dybiaeth fod rhagorfreintiau gwahaniaethiad cysgodol yr Iuddewon yn parhau, trwy ryw oruchwyliaeth o eiddo Duw, pan y mae y sylweddau wedi eu dwyn allan mor amlwg yn yr efengyl, a'u rhoddi yn eiddo i'r eglwys Gristionogol yn ddiwahaniaeth. Oblegid fod y rheswm hwn wedi rhedeg yn faith, ac ymranu i wahanol ganghenau, rhoddwn grynodeb o hono o flaen y darllenydd. Yr ydym wedi ymdrechu dangos fod y dybiaeth o ddygiad yr Iuddewon i wladychu i Ganaan, ar wahân oddiwrth bob cenedl arall, yn groes i dystiolaeth y Testament Newydd, yr hwn a ddengys fod pob gwahaniaeth wedi ei ddilëu—yn groes i ysbrydolrwydd ac ansawdd y grefydd a ddatguddir yn yr efengyl—fod y dybiaeth yn anghyson â chyfammod Duw ag Abraham, ac yn groes i natur teyrnas Iesu Grist, yr hon ni ellir ei gosod ar egwyddorion dacarol a lleol—fod y cyfammod a roddai hawl i'r Iuddewon wedi ei ddilëu a'i symud oddiar y ffordd, a bod holl ragoriaethau a breintiau Isracl gynt wedi eu sylweddoli a'u hysbrydoli yn Nghrist, y rhai ydynt eiddo ei eglwys, o bagenedl bynag y byddo. Oddiwrth hyn, y mae yn rhaid fod y dybiaeth a wrthwynebir genym yn hollol ddisail, ac wedi tarddu o'r un mympwy a phenboethder a Bhyfel y Groes trwy effeithiad y mynachod, nes cynhyrfu holl Ewrop tnvy geisio cnnill gwlad Canaan, a hyny er eu dinystr eu hunain. Hefyd, mor bell ag y mae gcnym hanes am Iuddewon wedi dychwelyd at yr Arglwydd, o ddechreuad Cristionogaeth hyd yn bresenol, nid oes neb o honynt wedi meddwl nac amcanu dyehwelyd i Ganaan, fel cenedl; ond y maent wedi ymsuddo yn naturiol ac ewyllysgar i undeb â'r cglwys Gristion- ogol, ac ymwisgo ag enw newydd, yn ol addcwid Duw, Esay lxv. 15. Y mae yn debyg fod llawer yn barod i ddweyd, yn wyneb yr hyn a grybwyllwyd, fod yr Arglwydd, yn ei Ragluniaeth, wedi cadw yr Iuddewon yn genedl wahanedig oddiwrth genhedloedd eraill er yr amscr y gwasgarwyd hwy, i ryw ddyben doeth; a pha beth a all hyny fod ond cr eu dwyn yn ol i'w hcn wlad? Digon gwir fod yr Iuddewon anghrediniol yn wahanedig oddiwrthbob cenedl arall: onidyw y Cymry felly, a lluaws o genhedloedd eraill can hyncd a hwythau? Hefyd, ymac yr Arglwydd, yn ei allu a'i hir-ymaros, wedi parhau i'w cynnal hwy, fel cenliedloedd pechadurus a gwrthryfelgar eraill, rhag cael eu dyfetha; ond dweyd fod gan yr Arglwydd law yneu cynnal arwahân oddiwrth genhedl- oedd eraill sydd ynfydrwydd; oblcgid os-ystyriwn mai cu hanghrcdiniaeth—eu gwrthodiad Ebeill, 1853. Q