Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

ŵftijnìiaîL YMFFROST PAUL. "Mi a aethum yn íFol wrth ymffrostio; chwychwi a'm gyrasoch." Yr oedd y dyn raawr i'w weled a'i glywed yn Paul bob amser, ac ar bob achlysur. Erioed ni symudodd ei draed, ei dafod, na'i bin, heb adael ar ei ol argraff o fawredd y dyn. Yr oedd cyrchu at nôd camp uchel yn amcan yn ei olwg yn rahob peth yr ymaflodd ynddo erioed, a chyrchai at y nôd hwnw hefyd gyda holl nerthoedd ei feddwl cadarn, a holl angerdd ei ysbryd tanllyd. Fel crefyddwr Phariseaidd, cynnyddodd yn y grefydd Iuddewig yn fwy na'i holl gyfoedion o'i genedl ei hun, gan fod "yn fwy awyddtis i draddodiadau ei dadau." Os mynwn weled Phariseaeth wedi ei gweithio allan i'r radd uchaf o berffeithrwydd mewn buchedd ac ymarferiad, rhaid i ni edrych arni yn y gwr ienanc a elwid Saul. Saul o Tarsus hefyd ydyw yr enghraifft oreu o bawb i ddangos ysbryd y grefydd hòno; canys yn ol graddau helaethach ei awyddfryd dros y ddeddf a thraddodiadau ei dadau, yr oedd tân ei eiddigedd yn erbyn crefydd ysbrydol yr efengyl hefyd yn llosgi yn fwy angerddol yn ei galon, ac yn ei wneuthur yn erlidiwr mwy ymroddgar ac ofnadwy ar eglwys Crist na neb arall yn yr oes erlidgar yr oedd yn byw ynddi. Wedi ei ddychweliad, yr ydym yn ei gael yr un dyn, er yn greadur newydd. Yr hwn a fuasai o'r blaen yn ben Pharisead, ni allai ymfoddloni- ar ddim llai na bod yn ben Cristion ei oes. Mynai yr hwn a fuasai yr erlidiwr penaf fod yr apostol penaf drachefn, fel, yn awr, os mynwn weled Cristionogaeth wedi ei gweithio allan yn ei hysbryd a'i hegwyddorion yn y graddau uchaf o berffeithrwydd y gwelwyd hi ar y ddaear erioed, ond yn Iesu Grist ei hun, yn muchedd a bywyd Paul, apostol Iesu Grist, y gwelir hi felly. Erioed ni feithrinwyd galluoedd meddwl dynol gyda mwy o ofal a dyhewyd nag y meithrinwyd hwy ganddo ef; ac erioed ni chynnyddodd y galluoedd hyny i fwy o nerth mewn gwybodaeth, dealltwriaeth, barn, ao> athrylith, nag y gwnaeth yr eiddo ef; erioed chwaith ni chysegrwyd galluoedd dynol yn fwy llwyr a hollol i unrhyw achos nac amcan nag y cysegrwyd hwynt ganddo ef i wasanaethu Duw yn efengyl ei Fab. Saif y dyn hynod hwn yn nghanol holl gedyrn y ffydd o ddechreuad amser hyd yma fel y safai ei gyfenw yn mhlith miloedd Israel gynt,—"yn dalach o'i ysgwyddau i fyny na'r holl bobl." Pan aeth Paul i ymffrostio, gwnaeth hyny hefyd yn deilwng o hono ei hun—yn ddigyflfelyb. Ni cheisia lefaru yn gynnil; ni ffugia ostyngeidd- rwydd; ac etto mor rhydd ydyw oddiwrth ddim o naws balchder, hunan- oldeb, a gwag.ogoniant. Ni phetrusa ddywedyd na bu "yn ol i'r apostolion penaf',—iddo "lafurio yn helaethach na hwynt oll"—y dylasai Mehefin, I853, 2 c