Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

ŵatfjẃm. Y WEINIDOGAETH. Ei Hawddedod, Perthyna i bob swydd ei hawdurdod yn gystal a'i dyledswyddau. Segur- swydd yw hòno na byddo iddi ond enw ac elw, heb waith i'w gyflawni, ac awdurdod i'w gweinyddu. Nid oes un segur-swydd yn nheyrnas íesu Grist—yr un swydd o urddas ac elw yn ddyben iddi, ond pob un i wasan- aeth a defnyddioldeb. Awdurdod y swydd weinidogaethol ydyw gwrth- ddrych ein hymofyniad yn ei gylch y waith hon. Nyni a ymdrechwn grynhoi ein sylwadau ar y mater mewn íFordd o atebion i'r ddau ofyniad hyn,—A oes rhywfath o awdurdod yn perthyn i'r swydd weinidogaetholì Ac os oes, pa fath ydyw? Nyni a appèliwn yn unig "at y gyfraith ac at y dystiolaeth;" canys beth bynag a ddyweder na byddo "yn ol y gair hwn," nifydddim goleuni na phwys ynddo. " Eithr pa beth a ddywed yr ysgrythyr?" Dyma rai o'i hymadroddion hi ar y mater,—" Ac yr ydym yn attolwg i chwi, frodyr, adnabod y rhai sydd yn llafurio yn eich mysg, ac yn eich llywodraethu chwi yn yr Arglwydd, ac yn eich rhybuddio; a gwneuthur cyfrif mawr o honynt mewn cariad, er mwyn eu gwaith," 1 Thes. v. 12, 13. " Cyfrifer yr henuriaid sydd yn llywodraethu yn dda, yn deilwng o barch dauddyblyg; yn enwedig y rhai sydd yn poeni yn y gair a'r athrawiaeth," 1 Tim. v. 17. " Meddyliwch am eich blaenoriaid (ar ymyl y ddalen, Ilywodraethwyr), y rhai a draeth- asant i chwi air Duw.—Ufuddhewch i'ch blaenoriaid (llywodraethwyr), ac ymddarostyngwch: oblegid y maent hwy yn gwylio dros eich eneidiau chwi," &c. Heb. xiii. 7, a 17. Gallesid ychwanegu testunau i'r un per- wyl, ond y mae y rhai a goffáwyd yn llawn ddigon i'r pwrpas o brofi fod awdurdod o ryw fath yn perthyn i'r swydd weinidogaethol. Nid ydynt yn llefaru yn ochelgar na chyfrinol ar y mater, ond ynhollol syml ac eglur. Golygant hanfodiaeth awdurdod y swydd fel peth nad oedd dadl nac am- mheuaeth am dano—peth yr oedd yr eglwysi yn ei addef a'i gydnabod. Gan hyny, nid yw yr apostol yn y manau a nodwyd yn ceisio profi fod yr awdurdod yn bod, ond cymhell yr eglwysi i'w pharchu ac ymostwng iddi y mae, fel peth ag oedd yn addefedig ganddynt. Nyni a'i cawn ef unwaith yn profi ac yn amddiffyn ei awdurdod apostol- aidd ei hun, yn nghyda'i hawliau fel apostol a gweinidog, yn wyneb fod y gauapostolion yn eu gwadu, ac yn arwain y Corinthiaid ar gyfeiliorn yn y mater. Er na arferasai ei awdurdod, ac na cheisiai ei iawnderau fel apostol a gweinidog yn mhob peth, ni phetrusai ddadleu dros ei hawl iddynt yn llawn a phenderfynol pan y daeth achos am hyny; ond pan yn annog yr eglwysi eraill i ufuddhau i awdurdod yr henuriaid a osodasid arnynt, nid yw yn sefyll i brofi na dadleu dros yr awdurdod hòno, gan nad oedd achos am hyny, o herwydd nad oedd neb yn ei gwadu. Lle bynag y mae llyw- odraeth, rhaid fod llywodraethwyr i'w gweinyddu—a lle bynag y byddo llyw- odraethwr, dyna un mewn awdurdod. " Yn y dyddiau hyny nid oedd brenin yn Israel; ond pob un a wnai yr hyn oedd uniawn yn ei olwg ei hun," Barn. xvii. 6. Ni bu Israel erioed heb gyfraith, canys yr oedd cyfraith yr Arglwydd ganddynt; ac mewn un ystyr ni buont erioed heb Taohwbdd, 1853. 3 e